Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi cyhoeddi mesurau newydd i orfodi pobl i gael  brechiad Covid.

Fe fydd y mesurau yn effeithio cymaint â 100 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau.

Y bwriad ydy cynyddu nifer y bobl sy’n cael brechiad Covid-19 a cheisio rheoli’r cynnydd yn y nifer sydd wedi cael amrywiolyn Delta, sydd wedi arwain at filoedd o farwolaethau bob wythnos.

Wrth siarad yn y Tŷ Gwyn, roedd Joe Biden yn feirniadol o’r tua 80 miliwn o bobl sydd heb gael eu brechu hyd yn hyn, er gwaetha’r ffaith bod y brechlyn wedi bod ar gael ers misoedd.

“Ry’n ni wedi bod yn amyneddgar. Ond ry’n ni’n dechrau colli amynedd ac ry’n ni gyd yn cael ein heffeithio am eich bod chi’n gwrthod [cael y brechlyn].”

O dan y rheolau newydd bydd gorfodaeth ar gyflogwyr gyda mwy na 100 o weithwyr i sicrhau eu bod yn cael y brechlyn neu brawf wythnosol am y firws, gan effeithio tua 80 miliwn o Americanwyr.

Bydd yn rhaid i oddeutu 17 miliwn o weithwyr mewn gwasanaethau iechyd hefyd gael eu brechu’n llawn, ac mae Joe Biden yn arwyddo gorchymyn i’w gwneud yn orfodol i’r rhai sy’n gweithio i’r llywodraeth ffederal gael eu brechu.

Er gwaetha’r ffaith bod 208 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn mae cynnydd o 300% wedi bod mewn achosion o Covid-19 bob dydd a bron i ddwywaith cymaint o farwolaethau o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.