Mae elusen sy’n cynrychioli lleoliadau cerddoriaeth wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth yr Alban i gyflwyno pasborts brechu.
Yn ôl y Music Venue Trust, mae’r cynllun yn “aneglur” ac mae posibilrwydd y bydd yn “achosi dryswch”.
Maen nhw wedi galw ar Lywodraeth yr Alban i gysylltu â’r sector, gan ddweud bod rhaid i hynny ddigwydd yn sydyn i sicrhau hyder y cyhoedd yn y polisi.
Cafodd cynllun Llywodraeth yr Alban i gyflwyno pasborts brechu gymeradwyaeth Aelodau Seneddol ddoe (9 Medi).
O 1 Hydref, bydd rhaid i bobol gael tystiolaeth drwy ap ffôn, neu ar bapur, i ddangos eu bod nhw wedi’u brechu’n llawn er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.
Bydd y rheolau’n berthnasol i glybiau nos a lleoliadau tebyg, adloniant oedolion, digwyddiadau tu mewn, lle nad yw pobol yn eistedd, gyda dros 500 o bobol, digwyddiadau tu allan, lle nad yw pobol yn eistedd, gyda dros 4,000 o bobol ac unrhyw ddigwyddiad gyda dros 10,000 o bobol.
“Cosbi pobol ifanc”
Mae rhai manylion ar goll ar hyn o bryd, megis diffiniad clwb nos, ac mewn datganiad dywedodd y Music Venue Trust bod prinder manylion gyda’r rhaglen ac y gallai achosi dryswch i’r cyhoedd yn ogystal a lleoliadau.
“Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae’r polisi hwn gan Lywodraeth yr Alban yn ymdrech i eithrio rhai pobol rhag mynd i rywle rywbryd, heb gynnig gwybodaeth ddigonol ynghylch pryd, lle, pwy a sut,” meddai’r Music Venue Trust.
“Wrth wneud hynny mae’n bosib ei bod yn cosbi pobol ifanc yn anghymesur, gan eithrio un ymhob pedwar ohonyn nhw rhag economi’r nos, a phobol o gefndiroedd amrywiol, gan eithrio 50% ohonyn nhw rhag economi’r nos.”
“Amddiffyn y cyhoedd”
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney, y byddai’r cynllun newydd yn helpu i leihau lledaeniad Covid-19, ac yn helpu i atal lleoliadau rhag gorfod cau eto oherwydd Covid.
“Fel dw i wedi awgrymu, mae’r llywodraeth wedi cyflwyno manylion i’r senedd ynghylch natur y rhaglen, rydyn ni wedi rhoi’r cynigion hynny i’r senedd brynhawn heddiw fel rhan o’n hymdrech i amddiffyn sefyllfa fregus iawn sy’n ein hwynebu yn yr Alban heddiw wrth i dderbyniadau i ysbytai a heintiadau godi gan fygwth ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol,” meddai Ysgrifennydd Adfer wedi Covid yr Alban, John Swinney, ddoe.
“Rydyn ni’n trio gweithredu’n gymesur i amddiffyn y cyhoedd rhag y coronafeirws.”