Bydd cyn-Aelod o’r Senedd, Neil McEvoy, yn sefyll ei brawf yn y llys fis nesaf am dorri’r cyfyngiadau covid ym mis Chwefror eleni.

Cafodd Mr McEvoy, sydd ar hyn o bryd yn gynghorydd yn cynrychioli ward y Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd, ‘hysbysiad gweithdrefn cyfiawnder’ gan Lys Ynadon Caerdydd.

Cafodd ei gyhuddo o fod yng Nghaerau, Caerdydd – i ffwrdd o’i gartref yn y Tyllgoed – ar Chwefror 15, tra’r oedd Cymru ar Lefel Rhybudd 4.

Dan y cyfyngiadau ar y pryd, gwaharddwyd pobl rhag teithio y tu allan i’w hardal leol heb esgus rhesymol.

 

Mae Neil McEvoy wedi amddiffyn ei hun ar ei gyfrif twitter: ‘Fe wnaeth bob gwleidydd adael eu tai fis Chwefror, ac eto dim ond fi sy’n cael ei erlyn. Mae hyn yn drewi.’

‘Edrych ymlaen’

Cyflwynodd Mr McEvoy, 51, oed apêl ar 20 Awst a chynhaliwyd gwrandawiad gweinyddol ar 8 Medi yn Llys Ynadon Caerdydd.

Mae ei achos wedi cael ei gyfeirio wedyn at wrandawiad llys llawn, ac fe fydd Mr McEvoy yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar 21 Hydref am 10 o’r gloch.

Dywedodd y Cynghorydd Neil McEvoy: “Mae’n rhaid i’r gyfraith fod yn berthnasol i bawb yn gyfartal ac yn fy achos i nid yw’n gwneud hynny.

“Gadawodd pob gwleidydd arall yng Nghymru eu cartref i weithio yn y pandemig, ac eto ni ddilynwyd unrhyw un arall gan yr heddlu.

“Mae’r gyfraith ar fy ochr i ac rwy’n edrych ymlaen at amddiffyn fy hun.

“Byddaf yn defnyddio’r un rhannau o’r ddeddfwriaeth a oedd yn caniatáu i Swyddogion Cymorth Cymunedol gyflwyno taflenni yn ystod yr un cyfnod.

“Mae’r achos yn un o egwyddor ddemocrataidd. Ydyn ni’n gyfartal o flaen y gyfraith yng Nghymru ai peidio?”