Mae pol piniwn newydd yn awgrymu bod y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr wedi gostwng wedi i Boris Johnson gyhoeddi ei gynlluniau i gynyddu trethi.

Fe wnaeth Prif Weinidog Prydain gefnu ar addewid maniffesto’r Ceidwadwyr gan godi trethi fel rhan o gynllun i weddnewid gofal cymdeithasol a mynd i’r afael ag effaith Covid-19 ar y Gwasanaeth Iechyd.

Bydd cynnydd o 1.25% ledled y Deyrnas Unedig sy’n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac mae Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Oliver Dowden, yn credu y gallai’r etholwyr “wobrwyo’r” Llywodraeth yn yr etholiad nesaf.

Fodd bynnag, yn ôl y pol piniwn a gafodd ei gyhoeddi yn The Times, mae cefnogaeth y Ceidwadwyr wedi gostwng o bum pwynt lawr i 33% ers i Boris Johnson gyhoeddi ei gynlluniau i weddnewid gofal cymdeithasol.

Mae’r pol yn dangos bod y Blaid Lafur ar y blaen gyda 35%, y tro cyntaf i blaid Keir Starmer fod ar y blaen ers mis Ionawr.

“Budd hirdymor”

Pan ofynnwyd i Oliver Dowden am ganfyddiadau’r pol ar Sky News, dywedodd bod polau piniwn yn “mynd a dod”.

“Yr hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud yw gwneud penderfyniadau hirdymor sydd o fudd cenedlaethol,” meddai Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“A dw i’n meddwl, pan gyrhaeddwn ni’r etholiad cyffredinol nesaf, sydd yn eithaf pell i ffwrdd, bydd pobol wedi pwyso a mesur hyn a beth fydd canlyniadau hyn, oherwydd byddwn ni wedi rhoi arian ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rydyn ni wedi osgoi argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd, rydyn ni wedi cynyddu capasiti yn y Gwasanaeth Iechyd ac rydyn ni o’r diwedd, ar ôl i sawl llywodraeth flaenorol osgoi’r her hon gyda gofal cymdeithasol – dw i’n cofio ein bod ni’n siarad am hyn 10, 15 mlynedd yn ôl – o’r diwedd mae’r Prif Weinidog wedi gwneud rhywbeth am hyn.

“Ac yn y diwedd, dw i’n meddwl bod etholwyr yn gwobrwyo llywodraethau sy’n barod i wneud penderfyniadau anodd er mwyn amddiffyn buddion hirdymor cenedlaethol, a dyna ydi pwynt y penderfyniad hwn.”

“Casáu codi trethi”

Pan ofynnwyd iddo a yw ei sylwadau’n golygu ei bod hi’n werth gwneud penderfyniadau “amhoblogaidd” er lles y wlad, dywedodd Oliver Dowden bod y llywodraeth yn gwneud penderfyniadau “er lles cenedlaethol”.

“Wrth gwrs dw i’n casáu codi trethi, mae unrhyw Geidwadwr yn casáu codi trethi, ond y dewis arall fyddai camarwain y cyhoedd, yn syml – dweud y bydden ni’n cynyddu adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd heb fod cost, a fyddai’n golygu benthyg yn y pendraw gan roi bwrn ar ein plant ac ein hwyrion a’n hwyresau,” meddai.

“Rydyn ni’n bod yn dryloyw ac yn glir ac yn dweud: er mwyn talu am hyn, mae’n rhaid i ni godi cyfraniadau yswiriant gwladol.

“Dw i’n meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud er lles hirdymor cenedlaethol a dw i’n meddwl y bydd pobol yn cydnabod hynny yn y pendraw.”