Mae heddlu Awstria wedi datgelu bod dyn wedi cuddio corff ei fam yn ei seler am flwyddyn a mwy, a hynny er mwyn cael hawlio ei phensiwn a’i lwfans nyrsio.

Fe alwodd y Glas yn nhŷ’r dihiryn yn ardal Innsbruck y Tyrol y penwythnos diwethaf, oherwydd amheuon bod ei fam 89 oed wedi marw ym mis Mehefin 2020.

Wrth gael ei holi bu i’r mab 66 oed gyffesu iddo gadw corff ei fam yn ei seler wedi iddi farw, er mwyn iddo barhau i dderbyn ei harian budd-dal.

Bu i’r awdurdodau gynnal archwiliad o gorff y fam ddydd Mercher, a doedd dim arwydd o ddrwgweithredu.