Mae rheolwr cartref gofal preswyl i blant yn Sir y Fflint wedi’i wahardd rhag gweithio yn y maes, ar ôl iddo anfon negeseuon amhriodol yn mynegi diddordeb rhywiol mewn plant.

Cafodd Thomas Burgoyne ei dynnu oddi ar y Gofrestru o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod fod ei addasrwydd i weithio wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Ym mis Medi 2016, gyrrodd negeseuon i berson arall yn mynegi diddordeb rhywiol mewn plant drwy ddefnyddio ap negeseua, a hynny tra yn gweithio mewn cartref gofal i blant.

Daeth Heddlu Avon a Gwlad yr Haf o hyd i’r negeseuon yn ystod ymchwiliad troseddol i’r person yr oedd Thomas Burgoyne wedi bod yn anfon y negeseuon ato.

Trwy fethu â rhoi gwybod am y negeseuon i’w gyflogwr na’r tîm diogelu, roedd Thomas Burgoyne yn rhoi plant mewn perygl o niwed, clywodd y gwrandawiad.

“Peri risg”

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, esboniodd y panel eu penderfyniad drwy ddweud bod Thomas Burgoyne wedi gwadu’r cyhuddiad ac nad yw’n cydnabod effaith bosibl anfon y negeseuon na’i fethiant i adrodd am bryder diogelu.

“Rydym yn pryderu nad yw [Mr Burgoyne] wedi dangos unrhyw ddealltwriaeth o natur ddifrifol ei ymddygiad a chanlyniadau posibl ei weithredoedd,” meddai’r panel.

“Nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth i ddangos ei fod wedi cymryd camau i gywiro ei ymddygiad.

“Roedd ymddygiad Mr Burgoyne yn rhoi plant mewn perygl o niwed drwy fethu rhoi gwybod am ei sgwrs gyda [phlentyn]. Yn hyn o beth, rydym yn canfod ei fod yn peri risg i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau.”

Penderfynodd y panel ei atal rhag gweithio yn y maes.

“Nid ydym yn ystyried bod unrhyw ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd rhag y risgiau y mae Mr Burgoyne yn eu cyflwyno oherwydd ei ddiffyg mewnwelediad, ei batrwm o wadu a’r rhagolygon cyfyngedig o adfer.

“Byddai’n rhaid i Mr Burgoyne gydnabod yr hyn a wnaeth o’i le cyn y gellid disgwyl iddo ei gywiro.”

Nid oedd Thomas Burgoyne yn bresennol yn y gwrandawiad tri diwrnod dros Zoom yr wythnos ddiwethaf.