Fe allai creu “diwydiant technoleg chwaraeon” ddod â hyd at 1,120 o swyddi newydd i ail ddinas fwyaf Cymru, yn ôl arweinwyr y project.

Prifysgol Abertawe sy’n gyrru’r drol i greu’r hyn maen nhw yn ei alw yn glystyrau technoleg chwaraeon a meddygaeth.

Mae yn rhan o’r cynllun ehangach y Ddêl Ddinesig ar gyfer creu swyddi yn Rhanbarth Ddinesig Bae Abertawe, sy’n cael ei reoli gan y brifysgol, y cyngor sir lleol a dau fwrdd iechyd yr ardal.

Bwriad y brifysgol yw codi adeilad technoleg chwaraeon a meddygol newydd gyferbyn â’r trac athletau wrth y Bae, a fyddai yn arwain maes o law at greu pentref chwaraeon.

Hefyd mae’r brifysgol eisiau creu canolfan ymchwil yn Ysbyty Treforys.

Angen £161m

Bu Pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, yr Athro Keith Lloyd, yn egluro wrth Banel Sgriwtini’r cyngor sir lleol y gallai’r safle ddenu 300 a mwy o gwmnïau gan greu rhwng 1,000 a 1,120 o swyddi.

“Y gobaith yw cyflawni rhywbeth unigryw iawn gyda’r hyn rydan ni’n ei weld fel potensial y rhanbarth i ddatblygu clwstwr o ddiwydiannau technoleg chwaraeon a meddygol a fydd o bwys ledled y byd.”

Ychwanegodd bod Is-Ganghellor y brifysgol, yr Athro Paul Boyle, yn awyddus i weld Prifysgol Abertawe yn ymdebygu i Brifysgol Loughborough yn Lloegr o safbwynt ei safle fel cyrchfan i elît y byd chwaraeon.

Dywedodd yr Athro Lloyd fod diogelydd dannedd – gum shield – yn cael ei greu ym Mhort Talbot fydd yn gallu mesur pa mor galed yw’r gwrthdaro mewn tacl, ac mai dyma’r math o ddyfeisiadau chwaraeon y rhagwelir y medrid eu cynhyrchu ar y safle newydd.

Ychwanegodd fod pedwar o bartneriaid masnachol yn barod i gefnogi’r project – corff Chwaraeon Cymru a thri o gwmnïau technoleg a fferyllol nad oedd am gael eu henwi ar hyn o bryd.

Byddai angen £161 miliwn i ddatblygu’r safleoedd wrth y trac athletau ac yn Ysbyty Treforys.

Y disgwyl yw y bydd Llywodraethau Prydain a Chymru yn darparu £15 miliwn, y brifysgol a’r byrddau iechyd yn cyfrannu £73.4 miliwn a’r sector breifat yn rhoi £72.4 miliwn at yr achos.

Gobaith yr Athro Lloyd yw y bydd Llywodraethau Prydain a Chymru yn rhoi’r caniatâd terfynol i fwrw ymlaen â’r project ym mis Tachwedd.