Mae un o gyflwynwyr Radio Cymru ar fin cyhoeddi ei nofel gyntaf, felly fe aeth Golwg i holi’r holwr…

Ers dechrau cyflwyno rhaglen foreol Radio Cymru yn 2016, mae Aled Hughes wedi dod yn enw adnabyddus iawn. Nawr mae’r newyddiadurwr o Lŷn, sydd bellach yn byw yn Llanfairpwll ym Môn, yn mentro i fyd llenyddiaeth.