Mae yna sŵn yn y môr o gwmpas Enlli ar ôl i artistiaid fod yn trafod y syniad o bererindota gyda’r bobol leol…

Dros y penwythnos yma, bydd Gŵyl Rithiol Pererindod yn arddangos gwaith newydd gan 10 artist o Gymru a Gwlad y Basg ar wefan AM, ac wedyn yng nghanolfan Porth y Swnt yn Aberdaron.

Gwledd amlddisgyblaethol, dairieithog yw’r Ŵyl, gydag artistiaid yn chwarae â’r syniad o ‘Bererindod’ a hynny ar ffurf fideo, podlediad, collage, cerddoriaeth, cerddi, dyddiadur… ac un ar ffurf siwmper wlân.

Y cwmnïau theatr Invertigo a Chwmni Tebot sy’n gyfrifol am y trefnu ac am ddewis yr artistiaid a fydd yn cymryd rhan – sef Elgan Rhys, Emily Meilleur a Femke van Gent, Iestyn Tyne, Jonny Reed, Tafsila Khan, a Meinir Roberts.

Gwaith braslunio gan Emily Meilleur a Femke van Gent

“Mi gawson ni sawl trafodaameth ddifyr ar y thema gyda’n gilydd – sef y gymuned leol yn Llŷn, gan gynnwys disgyblion Ysgol Glan y Môr,” eglura Steffan Donnelly o gwmni Invertigo.

“Ai her ydi pererindod? Ai rhywbeth tawel ydi o? Ydi o yn gerdded, yn chwysu, yn swigod ar draed neu a ydi o yn y meddwl? Mae gan bawb ei stori, ac mae gan bawb ei reswm.”

Ymhlith y syniadau y buon nhw’n eu trafod oedd atyniad y Celtiaid at benrhyn, y boddhad o weld dillad glân yn cyhwfan ar lein ddillad, a throi yn ôl at ffydd.

“Fe gawson ni Zooms efo Merched y Wawr… efo pwy bynnag oedd yn ffansi ymuno efo ni a dweud y gwir,” meddai Mared Llywelyn o Gwmni Tebot. “Mi wnaethon ni jyst trafod y thema ‘pererindod’ ond symud mwy oddi wrth y syniad traddodiadol ohono fo a’r pererindodau bach personol sydd ganddon ni.

“Ac, wrth gwrs, y pererindota yn ystod y cyfnod clo. Roedden ni gyd yn mynd ar yr un un llwybrau, doedden, yn ffordd o gael rhyw awren fach o ryddid mewn diwrnod.”

Mae Gŵyl Pererindod wedi cael grant o gronfa ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru, a chefnogaeth gan gyrff Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Eisteddfod, Etxepare Instituta, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Fe gawson nhw ymateb “gwych” ar ôl gwneud galwad agored am artistiaid, gan ddenu dros 50 o geisiadau.

“Braint oedd cael darllen syniadau’r artistiaid ar wahanol agweddau o bererindod,” meddai Steffan Donnelly. “Roedd y safon yn arbennig o uchel, a bu’n gur pen wrth geisio dewis y saith artist o Gymru. Rydym yn edrych ymlaen yn arw i rannu gwaith arbennig yr artistiaid.”

Blas ar y creu

Dyma rai o’r pethau y gallwch eu disgwyl yn rhan o’r ŵyl:

  • Dychwelodd y cyfarwyddwr theatr Elgan Rhys i’w gynefin ym Mhen Llŷn ym mis Awst, gyda’r cwestiwn yma yn ei ben: ‘Ei di ’nôl?’ Mae ei waith fideo yn rhoi blas ar y sgyrsiau a gafodd gyda thrigolion a chyn-drigolion o’r ardal am y syniad o ddychwelyd.
  • Gan ddefnyddio gwlân y defaid ar ei fferm, mae Meinir Roberts wedi creu siwmper sydd wedi’i hysbrydoli gan ddiwydiant y môr, amaeth, a’r daith i Enlli. Mae gwaelod y siwmper a’r ffin rhwng y gwahanol adrannau yn dilyn patrwm y mat sydd ar lawr tŷ yn Enlli sydd wedi cael ei wneud â llaw allan o hen raffau. Tonnau a phatrymau cerrynt y Swnt sydd i’w gweld ar ran arall o’r siwmper.
  • Buodd yr artistiaid Emily Meilleur a Femke van Gent yn ymweld â gwahanol ardaloedd drwy’r wlad gyda bwrdd, cadeiriau, a thebot del – a gwahodd pobol atyn nhw i rannu clonc a phaned. Enw’r cywaith o sgwrsio a rhyngweithio yw ‘Pererindod Pobol’, yn collages gweledol a sain sy’n llawn myfyrdodau ar bererindodau cyfoes.
  • Darn clywedol sydd gan y cyfarwyddwr theatr Tafsila Khan yn archwilio taith drosiadol a llythrennol person dall sy’n gorfod addasu i ddefnyddio ffon wen hir.
  • Mae’r gwneuthurwr ffilm Jonny Reed wedi bod yn recordio’i hun ers iddo gael ei gamera fideo 8mm cyntaf ym 1996 yn 14 oed. Mae wedi pori drwy ei archif bersonol i greu fideo sydd yn bererindod i ‘dderbyn‘ y bachgen y ceisiodd ei adael ar ôl. Y canlyniad yw llythyr i’r llanc 14 oed, a oedd yn pryderu am ei ddyfodol.

 

A nhwythau yn gwmni theatr o Ben Llŷn, roedd Cwmni Tebot yn awyddus iawn i gomisiynu artistiaid lleol.

“Mae yna dri artist o Ben Llŷn efo ni – Iestyn Tyne, Meinir Roberts, ac Elgan Rhys,” meddai Mared Llywelyn. “Roedden ni eisio rhoi’r cyfle yna i bobol yn ein cymuned ni fedru derbyn comisiwn ac chreu gwaith gwreiddiol newydd yn ymateb i’r thema yma.

“Roedden ni wedi gwirioni efo’r thema beth bynnag; roedd yna mae gymaint iddo fo. Ro’n ni’n meddwl pa ddarnau o weithiau fedrwn ni eu dewis sy’n mynd i wthio’r hyn mae pererindod yn ei feddwl.

“Mae ganddon ni rywun fel Meinir Roberts, sy’n gweu ac yn creu ei gwlân ei hun ers blynyddoedd ond efallai ddim wedi cael y platfform yna eto i arddangos ei gwaith. Dyna grefft hollol anhygoel sydd gan Meinir, mae yna oriau ac oriau o waith wedi mynd i mewn i greu’r siwmper yma.”

Hwb i’r awen

Profiad o ddychwelyd o’i gartref yng Nghaernarfon i’w fan genedigol ar Ynys Enlli yw ‘Cofrodd’ gan Iestyn Tyne. Mae wrthi’n gweu’r profiadau a gafodd ar hyd y daith i mewn i gyfansoddiad cerddorol “i fapio’r bererindod”.

“Mi roedd hon yn daith yr o’n i wedi bod eisiau ei gwneud ers tro,” meddai’r bardd a’r cerddor, “ac mi ro’n i wrth fy modd yn cael y cyfle i wneud hynny fel rhan o brosiect Pererindod.

“Dw i’n gerddwr brwd, ond yn tueddu i gipio amser yma ac acw i wneud, ac felly roedd treulio wythnos gyfan ar y llwybrau yn brofiad newydd.

“Mi esblygodd y prosiect i fod yn rhywbeth rhywfaint yn wahanol i’r hyn yr oeddwn i wedi ei ragweld; roedd mynd heb ormod o ddisgwyliadau o ran beth fyddai’r darn gorffenedig yn fuddiol yn hynny o beth.”

Fel cerddor, roedd wedi colli ysgogiad yn ystod y cyfnodau clo, a’i dechneg wedi gwanhau. Mae’n falch bod y comisiwn yma wedi aildanio ei gariad at gyfansoddi cân.

“Mi ges i ryw sylweddoliad yn ddiweddar fod cerddoriaeth wastad wedi bod i mi yn rhywbeth sydd ynghlwm wrth gymuned, grŵp o bobol, cyfeillgarwch; cyd-greu a chydchwarae,” meddai.

“Heb hynny yn ystod y cyfnod clo mi es i’n ddiawydd, yn ddiysbrydoliaeth, yn ddiysgogiad braidd. Roedd fy nhechneg gerddorol wedi gwanio ac ro’n i’n ei chael hi’n anodd cyrraedd rhai nodau ar y ffidil oherwydd diffyg ymarfer.

“O ganlyniad, rhyw frasluniau syml, ailadroddus, amrwd ydi’r argraffiadau sain o’r daith, ac felly mi ddaeth y cyfan yn ymdrech i ddychwelyd at lwybrau cyfarwydd y tannau, y seiniau sy’n fy nghysylltu â phobol eraill a’u hanesion a’u teithiau hwythau.”

Yn ogystal â’r artistiaid o Gymru mae tri artist o Wlad y Basg hefyd yn cymryd rhan yn yr Ŵyl, sef yr awdures a’r gantores Amaia Gabantxo, yr awdures a Bertsolari Oihana Iguaran, a’r cartwnydd a’r artist graffiti Asisko Urmeneta.

Yn ystod y broses, mae Asisko Urmeneta wedi bod yn cydweithio ac yn ymateb i stribedi cartŵn rhai o ddisgyblion Adran Gelf Ysgol Botwnnog, dan arweiniad eu hathrawes, yr artist Elin Huws.

“Bu’n gyfle gwych i bontio’r ddwy wlad,” meddai Steffan Donnelly, “a phrofiad arbennig oedd cynnal cyfarfod dros Zoom a hynny drwy ddefnyddio’r Gymraeg a’r Fasgeg yn unig – diolch i’r cyfieithydd amryddawn Begotxu Olaizola.”

Hoffai’r trefnwyr ddiolch i’r holl artistiaid am eu gwaith ac am gefnogaeth Cyngor Tref Nefyn, Cyngor Tref Llanengan, Esyllt Maelor, Llanw Llŷn, Telesgop, a Robert Williams.

 

  • Gŵyl Rithiol Pererindod, 17-19 Medi 2021. Gallwch weld y gwaith ar wefan AM a hefyd yng nghanolfan Porth y Swnt yn Aberdaron o 23 Medi.

Gŵyl Rithiol Pererindod yn dod â gwaith artistiaid o Gymru a Gwlad y Basg ynghyd

Mae’r ŵyl yn cynnwys gwaith aml-ddisgyblaethol sy’n archwilio’r syniad o ‘bererindod’ ar sawl ffurf, gan gynnwys fideo, dyddiaduron, a cherddoriaeth