Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith Bro360 yn yr wythnos ddiwethaf…

Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol

Roedd hi’n benwythnos mawr ym myd y treialon cŵn defaid ar gaeau Tanycastell, ger Aberystwyth. Aeth timau o Gymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr ben-ben yn y gystadleuaeth i weld pa gi a’i berchennog fyddai’n cael eu coroni’n bencampwyr.

Yn anffodus, doedd ddim modd i’r pwyllgor lleol diwyd groesawu tyrfa i wylio’r cyfan, ond diolch byth am dechnoleg! Roedd modd i bobol adre ddilyn y cystadlu ar flogiau byw arbennig Y Ddolen a BroAber360, oedd yn llawn lluniau, canlyniadau a chlipiau o rai o’r cystadleuwyr – gan gynnwys rhediad y bachan lleol o Dal-y-bont, Dewi Jenkins.

Ymweld â chynefin adar prin yn Nyffryn Ogwen

Yng Nghymru, mae nifer fach o Linosiaid y Mynydd yn nythu yn Eryri, ond dros sawl degawd, mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol. Yn ddiweddar, aeth Siân Gwenllïan draw i safle gwarchod yr adar prin yn Nant Ffrancon. Yn ogystal â bod yn Aelod o’r Senedd dros yr ardal, mae Siân hefyd yn Bencampwr Rhywogaeth Llinos y Mynydd.

Yn ôl Siân Gwenllïan: “Er gwaetha’r ffaith bod poblogaeth Llinos y Mynydd wedi bod yn lleihau ers blynyddoedd, mae’n ymddangos bod newid ar droed yn Nyffryn Ogwen, yn dilyn gweithredu RSPB Cymru, ffermwyr lleol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nant Ffrancon.” Darllenwch ragor ar Ogwen360.

Unknown

Ymweld â chynefin adar prin yn Nyffryn Ogwen 

Osian Owen: Ar Goedd

Er gwaethaf bygythiad diweddar, mae newid ar droed i’r boblogaeth 

Criced lleol ar frig y tabl!

Rygbi neu bêl-droed? Mae’r ddadl am beth ydy gwir gamp genedlaethol Cymru yn un oesol (a diflas, falle!) ond oes opsiynau eraill yn y pair?

Cynhaliwyd cystadleuaeth chwaraeon lleol ar wefannau Bro360 ym mis Awst. I ennill roedd angen cyhoeddi’r stori chwaraeon lleol mwyaf poblogaidd ar draws y bröydd… ac yn cipio’r wobr gyntaf oedd darn gan Rhys Pritchard am lwyddiant Tîm Criced Merched Bethesda ar Ogwen360.

Yn ail yng nghystadleuaeth Bro360 oedd Hannah Jones a Clonc360, gyda’i stori am fachgen ifanc yn ennill cwpan golff ei dad-cu, ac yn drydydd roedd Manon Wyn James a Caron360 am stori am daith beics Rhodri. Llongyfarchiadau i chi gyd!

Criced lleol ar frig y tabl!

Daniel Johnson

Yng nghystadleuaeth chwaraeon lleol Bro360, darn am Glwb Criced Bethesda fu’n fuddugol

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Bywyd newydd i adeilad gwag yn Llanbed, gan Siwan Richards ar Clonc360
  2. Croesawu’r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol i Danycastell, gan Megan Lewis ar BroAber360
  3. Arolwg da iawn i Gylch Meithrin Tregaron, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360