Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi map o etholaethau San Steffan ar eu newydd wedd, ac eisiau barn y cyhoedd ar y cynllun i ethol llai o Aelodau Seneddol Cymreig yn San Steffan.

Wedi i’r comisiwn ddatod yr etholaethau fel darnau jig-so a’u hailosod nôl yn eu lle, ymddengys fod rhai o’r darnau hyn wedi hollti ac ambell ddarn arall wedi diflannu’n llwyr oddi ar y map.

O blith pedair gwlad y Deyrnas Unedig, Cymru fyddai yn profi min y fwyell gan golli wyth Aelod Seneddol a fydd yn lleihau nifer yr ASau Cymreig ar lawr siambr Tŷ’r Cyffredin o 40 i 32.

Allan o 650 o seddi San Steffan, Lloegr, yn amlwg, fydd â’r mwyaf o aelodau gan gynyddu 10 aelod i gyfanswm o 543, tra bydd yr Alban yn gostwng o 59 i 57 a Gogledd Iwerddon yn aros yn gyson ar 18.

Mae Ynys Môn wedi ei hynysu o’r newidiadau hyn oherwydd ei bod yn ‘etholaeth warchodedig’ a’i hamgylchiadau yn cael eu cyfrif yn rhai arbennig.

Fe fydd gweddill etholaethau Cymru yn cael eu haddasu ryw ychydig dan y cynlluniau newydd, gyda phob plaid ar eu hennill a’u colled yn amrywio o sedd i sedd.

Ond mae’r feirniadaeth gan Blaid Cymru a Llafur yn hallt gyda’r gwrthbleidiau’n cyhuddo’r Ceidwadwyr o gynllwynio.

“Beth sydd ar waith yw cynllun fformiwlëig, mathemategol ac mae hynny’n cael ei ddefnyddio’n eithaf didrugaredd yn erbyn Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wrth gylchgrawn Golwg.

“Dyma’r camau diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gymryd rheolaeth yn ôl [o Senedd Cymru] i San Steffan.”

Mae cynlluniau i ail-lunio ffiniau etholaethau Senedd San Steffan ar droed ers tua degawd, pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog.

Ar yr olwg gyntaf fe allai’r cynlluniau hyn gael eu gweld yn fodd o ddwyn budd etholiadol i’r Ceidwadwyr, ond nid yw hynny’n hollol wir erbyn hyn.

Fe ddywedodd yr Athro John Curtice, arbenigwr ar etholiadau o Brifysgol Strathclyde, wrth BBC Radio Wales y gallai fod yn wir pan gafodd y syniad ei grybwyll am y tro cyntaf, roedd enillion y Torïaid yn etholiad cyffredinol 2019 yn golygu eu bod wedi ennill “llawer iawn o etholaethau cymharol lai”.

“Mae’n debyg nad yw’r budd i’r Ceidwadwyr mor fawr â phe byddem yn disgwyl iddo fod,” meddai.

Seddi’r Gogledd

Dyma fyddai’r adolygiad mwyaf i etholaethau’r Deyrnas Unedig mewn canrif, ac fe fydd yna gwota yn cael ei osod fel bod gan pob sedd boblogaeth rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.

Ar hyn o bryd, Cymru sydd â rhai o etholaethau lleiaf y Deyrnas Unedig, ac ar gyfartaledd mae’r etholaethau hyn yn llai na’r rheiny yn Lloegr.

Dan y cynllun bydd etholaeth Arfon, sydd â 43,215 o etholwyr, yn cael ei hollti gyda thref Caernarfon yn ymuno ag etholaeth Dwyfor Meirionnydd a dinas Bangor yn dod yn rhan o etholaeth Aberconwy.

Gallai seddi’r hen Wal Goch yng ngogledd-ddwyrain Cymru hefyd gael eu rhannu, gyda De Clwyd a Dyffryn Clwyd yn diflannu.

Byddai De Clwyd, a enillwyd gan y Ceidwadwyr oddi ar Lafur yn etholiad cyffredinol 2019, yn cael ei rhannu rhwng Alun a Glannau Dyfrdwy, Wrecsam, ac etholaeth estynedig newydd Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.

Fe fyddai sedd arall a enillwyd gan y Ceidwadwyr yn 2019, Dyffryn Clwyd, hefyd yn cael ei rhannu rhwng etholaeth newydd Clwyd a Delyn.

Cweryla yn y Cymoedd?

Fe all y newidiadau greu drama i’r pleidiau’n lleol ac fe all rhai o gymeriadau lliwgar y blaid Lafur fynd benben â’i gilydd i ennill sedd yn ardaloedd y De.

Bydd rhannau o Gaerffili yn cael eu llyncu gan Orllewin Casnewydd tra bydd rhan helaeth o Gastell Nedd yn uno â sedd newydd – Dwyrain Abertawe a Chastell Nedd – tra bydd rhan arall yn uno â Brycheiniog a Maesyfed.

Ac yna mae yna gwestiwn dros ba aelodau fydd yn cael cystadlu yn seddi hyn.

A yw Christina Rees, AS Castell-nedd, am gael bod yn y ras yn etholaeth newydd Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd, neu a yw Dirprwy Arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris, o Ddwyrain Abertawe yn mynd amdani?

Ai AS Llafur presennol Caerffili, Wayne David, fydd yn cael ei ddewis i ymladd Gorllewin Casnewydd a Chaerffili, neu Ruth Jones, sy’n cynrychioli Gorllewin Casnewydd yn San Steffan nawr?

Fe allai brwydro mawr ddatblygu yn ardaloedd y De gan brofi’n niweidiol i Lafur.

Ceredigion Preseli

Mae newid i fod yng Ngheredigion hefyd. Bydd yr etholaeth hon yn uno ag etholaeth bresennol Preseli Penfro i greu Ceredigion Preseli.

Yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, mae’n ffyddiog y gall Plaid Cymru ddal ei gafael ar yr etholaeth newydd mewn etholiad cyffredinol.

Byddai hyn yn golygu bod Stephen Crabb, Aelod Seneddol Ceidwadol presennol Preseli Penfro, yn colli ei sedd yntau.

“Fe allai e wedi bod yn llawer gwaeth i ni [fel plaid],” meddai Ben Lake wrth gylchgrawn Golwg.

“Ond rhaid cofio, ni all yr un Aelod Seneddol gymryd ei sefyllfa’n ganiataol.

“Roedd hi’n anochel y byddai’n rhaid i Geredigion etifeddu rhannau o etholaethau eraill, ac o fy safbwynt i rwy’n eithaf hyderus y byddwn ni’n gallu cystadlu ac ennill.

“Pe byddai ffiniau presennol yn cael eu rhoi ar waith, fe fydd y sedd yn debyg iawn i’r hen sedd Ceredigion a Gogledd Sir Benfro.

“Rhaid cofio i Cynog Dafis ennill y sedd honno dros Blaid Cymru yn 1992 a dw i’n credu y byddwn ni mewn sefyllfa dda iawn i gipio’r sedd yn enw’r Blaid.

“Gan gofio bod sefyllfa go-lew gyda ni [Plaid Cymru] yng Ngheredigion a’r ardal yng Ngogledd Sir Benfro yn gwneud yn dda gyda’r Blaid ar y cynghorau sir ar lefel leol.

“Rhaid cofio hefyd bod 56,000 o etholwyr o Geredigion a dim ond 20,000 yn ychwanegol sydd yn dod o’r Sir Benfro newydd yma.”

Mae disgwyl i’r cynlluniau newydd hyn ddod i rym erbyn etholiad 2024, ond fe all Boris Johnson alw etholiad cyn hynny wedi iddo waredu’r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol.

Amser a ddengys a fydd y newidiadau hyn yn cynyddu’r galw am fwy o aelodau ym Mae Caerdydd, sef 60 AoS ar hyn o bryd.

Ond gyda Chymru’n cropian allan o bandemig mae’n bosib nad gwario ar greu mwy o wleidyddion sydd ar flaen meddyliau etholwyr.

Mae’r broses o ymgynghori ar y newidiadau yn para tan 3 Tachwedd, ac mae’r comisiwn yn erfyn ar bobl i gynnig syniadau newydd a rhoi eu barn.