Gall yr anghydfod rhwng Prifysgol Caerdydd ac aelodau o staff sy’n cael eu gorfodi i weithio wyneb-yn-wyneb yn ystod pandemig ddod i benllanw ddiwedd y mis gyda phleidlais dros weithredu diwydiannol.
Ac mae’r “dryswch” am reolau covid lai nag wythnos cyn i’r flwyddyn academaidd newydd gychwyn yn ychwanegu at bryderon staff, yn ôl Dr Renata Medeiros-Mirra, Is-lywydd Cangen Prifysgol Caerdydd o Undeb Prifysgol a Cholegau Cymru [UCU].