Er fod pawb yn gwybod bod y newid ar ddod, mi wnaeth y newidiadau yn etholaethau seneddol Cymru greu ychydig o gynnwrf … nid yn gymaint oherwydd y ffiniau, ond oherwydd yr holl syniad …

“Mae’r newidiadau’n cael eu cyflwyno fel petaen nhw’n fater o egwyddor – y dylai pob pleidlais fod â’r un gwerth yn y senedd. Mae’r esgus yna’n methu ar y cam cynta’. Petai’r fath egwyddor yn sanctaidd, dylai cynnwys Tŷ’r Cyffredin adlewyrchu maint pleidlais pob plaid mewn etholiadau cyffredinol. Mae system bresennol, y cynta’ sy’n cael y cyfan, yn osgoi’r fath ganlyniad. Yn yr etholiad diwetha’, cyfartaledd nifer y pleidleisiau i ethol AS Torïaidd oedd 36,264. Ar gyfer pob AS Llafur roedd yn 50,836 ac ar gyfer pob AS Dem Rhydd roedd yn ffigwr anferth – 336,038.” (Dafydd Wigley ar thenational.wales)

Yn ôl Ifan Morgan Jones, fydd y newidiadau ddim yn effeithio ar rym y Blaid Lafur yng Nghymru …

“Mi allech dynnu map o Gymru ar hap a byddai Llafur fwy na thebyg yn dal i ennill mwy na hanner y seddi oherwydd y cadarnle coch yn y de-ddwyrain. Beth bynnag y patrwm, coch ydi’r lliw…trwy’r trwch, er mai nod cynllun y Ceidwadwyr gyda’r newidiadau ffiniau yma yn ddiamau oedd lleihau niferoedd Llafur yn San Steffan yn gyffredinol, dw i’n credu mai Llafur fydd hapusa’ efo’r newidiadau arfaethedig yng Nghymru.” (nation.cymru)

I raddau o fewn y mudiad annibyniaeth, mae yna fwy a mwy o gydnabyddiaeth fod rhaid ennill cefnogaeth pleidleiswyr Llafur. I Harriet Protheroe-Soltani ar nation.cymru, rhaid mynd ati o ddifri’…

“…dyw difrïo trwy ddweud bod holl aelodau gweithredol Llafur yn ‘unoliaethwyr’ oherwydd eu bod yn pleidleisio i ymgeiswyr Llafur ddim yn adeiladol na thactegol. Pleidleiswyr Llafur yw’r union bobol y mae’n rhaid i’r mudiad annibyniaeth eu hennill! Ac mae yna lawer yn y Blaid Lafur ei hun sydd eisoes yn brwydro i roi annibyniaeth ar yr agenda…Yr her sylfaenol yw sut i wneud hynny. Rhaid i’r mudiad annibyniaeth bellach fynd ati gyda’r gwaith cymunedol caled o gnocio drysau a chael sgyrsiau anodd…”

Ond, yn ôl Theo Davies-Lewis, mae’r newidiadau yn yr etholaethau’n cynyddu’r her gyffredinol …

“Nawr, r’yn ni’n wynebu’r tebygrwydd o lai o ddylanwad gan Gymru yng ngwleidyddiaeth Prydain ar adeg pan fo mwya’ o’i angen. Er fod sylw fy nghenhedlaeth i efallai wedi troi eisoes at Fae Caerdydd, am tua’r deng mlynedd nesa’ o leia’, San Steffan fydd canolbwynt naturiol grym o hyd. Mae llai o seneddwyr yn golygu creu diffyg democrataidd: Cymru’n colli cynrychiolaeth wrth i gynigion i ehangu’r Senedd barhau yn y merddwr.” (thenational.wales)

Ar ben hynny, yn ôl Gareth Ceidiog Hughes, mae Llywodraeth San Steffan yn parhau i gipio grym o Fae Caerdydd … cwestiwn arall i’r Blaid Lafur …

“Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru am ragor o ddatganoli a Theyrnas Unedig ffederal yn edrych yn optimistig. Ar y gwaetha’ maen nhw’n ymddangos yn anobeithiol o naïf…mae Llywodraeth Boris Johnson yn taflu carthion i’r ‘dŵr coch clir’ y mae Llafur Cymru wedi ceisio’i roi rhwng Cymru a San Steffan. Mae’r afon yr yden ni i fod i yfed ohoni yn cael ei llygru a, dan system San Steffan, does dim llawer y gall Mark Drakeford ei wneud am hynny.” (nation.cymru)

Ffiniau Etholiadol yn hollti barn

Jacob Morris

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi map o etholaethau San Steffan ar eu newydd wedd