Roedd siom i Matthew Rhys yng ngwobrau’r Emmys yn yr Unol Daleithiau neithiwr.

Cafodd yr actor o Gymru enwebiad ar gyfer gwobr y Prif Actor Rhagorol am y gyfres ddrama Perry Mason.

Ond aeth y wobr i Jason Sudeikis am y gyfres Ted Lasso.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn The Event Deck yn Los Angeles.

Cafodd y Cymro ei enwebu ar gyfer y wobr yn 2018 am ei waith ar The Americans, a hynny’n dilyn enwebiadau eto yn 2016 a 2017.

Netflix yn serennu

Netflix oedd enillydd mawr y noson.

Cipiodd The Crown wobr y gyfres ddrama ragorol ar y pedwerydd cynnig, y tro cyntaf i Netflix gipio’r wobr yn y categori hwn.

Fe wnaeth y ffrydwyr hefyd ennill yng nghategori’r gyfres gyfyngedig neu antholeg orau ar gyfer The Queen’s Gambit, sy’n serennu Anya Taylor-Joy fel chwaraewr gwyddbwyll.

Aeth y brif wobr gomedi i Ted Lasso.

Enillodd Netflix ddeg o wobrau i gyd, a dyma’r tro cyntaf i’r gwasanaeth ennill mwy o wobrau Emmy na HBO, sydd wedi bod yn un o brif enillwyr y gwobrau ers blynyddoedd.

Dechreuodd Netflix ffrydio’n sylweddol yn 2013 gyda chyfresi fel House of Cards ac Orange Is The New Black ymhlith eu cyntaf.

Mae Netflix bellach yn gwario biliynau o bunnoedd ar gyfresi gwreiddiol.