Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ferch 16 oed yng Nghaerdydd.

Digwyddodd yr ymosodiad difrifol ger campws Prifysgol De Cymru yn y brifddinas toc cyn 11 o’r gloch nos Sadwrn (Medi 18).

Mae’r dyn o ardal Penylan yn cael ei holi yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio neithiwr (nos Sul, Medi 19).

Mae’r ferch wedi cael mynd adref ar ôl cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn yr ymosodiad, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Mae disgwyl i gampws y brifysgol agor eto o heddiw (dydd Llun, Medi 20).

Logo Heddlu'r De yn siap helmed

Ymchwilio i ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd

Mae timau fforensig ar y safle ger campws Prifysgol De Cymru