Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd.

Mae timau fforensig ar y safle ger campws Prifysgol De Cymru.

Yn ôl yr heddlu, fe ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 11.30 neithiwr (nos Sadwrn, Medi 18).

Mae’r heddlu’n cynnal ymholiadau yn y ddinas ar hyn o bryd wrth i’r ymchwiliad barhau.