Mae menywod sy’n gweithio i lywodraeth Affganistan wedi cael gorchymyn i beidio â mynd i’r gweithle.

Dim ond menywod sy’n methu cael eu disodli gan ddynion fydd yn cael mynd i’r gwaith, yn ôl maer y brifddinas Kabul.

Dyma’r cyfyngiadau diweddaraf ar fenywod ers i’r Taliban gipio grym yn y wlad, wrth iddyn nhw geisio gorfodi credoau eithafol Islam ar y wlad er iddyn nhw addo bod yn oddefgar a chynhwysol.

Y tro diwethaf iddyn nhw ddod i rym yn y 1990au, fe wnaethon nhw gyfyngu ar hawliau merched a menywod i fynd i’r ysgol neu’r gwaith ac i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

All merched ddim mynd i’r ysgol ar hyn o bryd, er bod bechgyn wedi cael dychwelyd yr wythnos hon, ac mae myfyrwyr benywaidd mewn prifysgolion yn cael eu dysgu ar wahân gan orfod dilyn rheolau gwisg gormesol.

Ddydd Gwener (Medi 17), fe wnaeth y llywodraeth gau’r Weinyddiaeth Materion Menywod a sefydlu gweinyddiaeth ar gyfer “rhinweddau ac atal gwendidau” yn unol â chyfreithiau Islamaidd.

Mae menywod wedi bod yn ymgasglu ger adeilad y weinyddiaeth i brotestio yn erbyn y drefn newydd, ond fe wnaethon nhw adael cyn cael eu herio gan y Taliban.