Mae protestiadau’n cael eu cynnal ledled Catalwnia yn erbyn cynlluniau i ehangu maes awyr Barcelona.

Mae protestwyr am weld y cynlluniau’n cael eu canslo o ganlyniad i’r bygythiad posib i lagŵn La Ricarda.

Er bod Llywodraeth Sbaen i’w gweld yn dechrau cefnu ar eu cynlluniau, mae’r protestiadau’n parhau am fod amheuon y gallai’r cynlluniau fynd yn eu blaen yn y dyfodol.

Roedd disgwyl y brotest fwyaf yn Barcelona am 12 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Medi 19), gyda mwy na 40 o grwpiau ymgyrchu’n dweud eu bod nhw am fynd i’r digwyddiad, ac mae disgwyl iddyn nhw orymdeithio drwy’r ddinas.

“Brwydro tros yr hinsawdd, iechyd a bywyd” yw slogan yr ymgyrchwyr yn y fan honno, ac mae disgwyl i ffermwyr yrru tractors trwy El Prat de Llobregat, yr ardal lle mae’r maes awyr.

Cefndir

Fe wnaeth yr ymgyrchwyr amlinellu eu rhesymau am gynnal protestiadau pan ddaethon nhw ynghyd ar gyfer cynhadledd i’r wasg ar Fedi 7.

Roedden nhw’n feirniadol o gytundeb rhwng llywodraethau Catalwnia a Sbaen i ehangu’r maes awyr, gan ddweud bod y cynllun yn “anghynaladwy” ac nad oedd “unrhyw gyfiawnhad” tros y cynlluniau.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod awdurdod meysydd awyr Sbaen wedi’i restru ar y gyfnewidfa stoc, ac felly eu bod nhw’n ceisio elw yn hytrach na blaenoriaethu lles y gymdeithas a’i thrigolion.

Maen nhw’n gobeithio darbwyllo’r awdurdodau i gefnu ar y cynlluniau yn gyfangwbl cyn Medi 30, y dyddiad olaf y gall Llywodraeth Sbaen gymeradwyo’r cynlluniau’n derfynol.

O ran yr amgylchedd, mae pryderon y byddai allyriadau carbon deuocsid yn cynyddu o 33% pe bai’r maes awyr yn caei ei ehangu, ac y byddai’r fath lefel yn mynd y tu hwnt i derfynau derbyniol Llywodraeth Catalwnia.

Byddai gwlyptir hefyd yn cael ei ddinistrio i wneud lle ar gyfer y datblygiad.

Ers y datblygiad diwethaf yn 2009, mae prisiau rhent wedi codi’n sylweddol o ganlyniad i dwristiaeth ac mae pryderon y byddai unrhyw swyddi fyddai’n cael eu creu yn rhai incwm isel a thros dro yn hytrach na chynnig sicrwydd yn y tymor hir.

Yn ogystal â’r protestiadau yng Nghatalwnia, mae disgwyl protestiadau tebyg ym Madrid a Mallorca.