Mae’r cyn-bêldroediwr a darlledwr Jimmy Greaves wedi marw’n 81 oed.

Yn ystod ei yrfa ddisglair ar y cae, chwaraeodd e i glybiau Chelsea, Milan, Spurs, West Ham, Brentwood, Chelmsford, Barnet a Woodford.

Enillodd e 57 o gapiau dros Loegr gan sgorio 44 o goliau rhwng 1959 a 1967.

Cafodd e strôc yn 2015 ac fe fu mewn cadair olwyn ers hynny.

Bu farw yn ei gartref fore heddiw (dydd Sul, Medi 19), yn ôl datganiad gan Spurs yn cyhoeddi ei farwolaeth ac yntau’n brif sgoriwr goliau’r clwb.

Yn ôl y clwb, roedd e’n “un o’r saethwyr gorau welodd y wlad erioed”, gan ychwanegu ei fod e wedi sgorio 22 o goliau mewn 321 o gemau cynghrair rhwng 1961 a 1970, yn ogystal â 32 o goliau mewn 36 o gemau yng Nghwpan FA Lloegr, pum gôl mewn wyth gêm yng Nghwpan y Gynghrair, a naw gôl mewn 14 o gemau Ewropeaidd iddyn nhw.

Roedd e hefyd yn aelod o garfan Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 1966.

Sgoriodd yn ei gêm gyntaf i Chelsea, lle dechreuodd ei yrfa, ac fe aeth yn broffesiynol yn 1957 cyn mynd yn ei flaen i sgorio 132 o goliau i’r clwb.

Gadawodd e am Milan yn 1961, cyn dychwelyd i Spurs y tymor canlynol ac fe ddaeth yn aelod o dîm llwyddiannus Bill Nicholson.

Yn ôl Spurs, fe wnaethon nhw wella o ddenu Jimmy Greaves atyn nhw ac yntau “braidd byth yn gwastraffu cyfle” i sgorio.

Treuliodd e un tymor gyda West Ham, sydd wedi cydymdeimlo â’i deulu yn dilyn ei farwolaeth.

Darlledu ar ôl ymddeol

Ar ôl ymddeol, fe ddaeth yn ddarlledwr poblogaidd ochr yn ochr ag Ian St John yn y rhaglen ‘Saint and Greavsie’ ar ITV rhwng 1985 a 1992.

Yn dilyn ymgyrch hir, fe dderbyniodd e fedal Cwpan y Byd yn 2009 – doedd e ddim wedi derbyn medal yn wreiddiol fel aelod oedd heb chwarae yn y rownd derfynol.

Bum mlynedd yn ddiweddar, fe werthodd e’r fedal yn Sotheby’s am £44,000.

Cafodd e strôc yn 1992 cyn gwella’n llwyr, ond fe gafodd e ail strôc chwe blynedd yn ôl oedd yn golygu ei fod yn anymwybodol am chwe niwrnod, ac fe fu mewn cadair olwyn ers hynny.