Fe fydd tîm futsal Cymru’n gobeithio talu’r pwyth yn ôl heno (nos Sul, Medi 19), wrth iddyn nhw herio’r Almaen am yr ail waith mewn dau ddiwrnod yn Düsseldorf.

Collon nhw’r gêm gyfeillgar gyntaf ddoe (dydd Sadwrn, Medi 18) o 3-2 yn y Castello.

Daeth sawl cyfle i Michael Meyer a Manuel Fischer sgorio i’r Almaenwyr, a chafodd Cymru gyfle drwy Josh Allen ond roedd Philipp Pless yn effro yn y gôl.

Sgoriodd Meyer ar ôl wyth munud i roi ei dîm ar y blaen, ac fe wnaeth hynny orfodi Cymru i chwarae’n fwy ymosodol cyn yr egwyl.

Daeth y gôl gyntaf i Gymru’n fuan wedi’r egwyl drwy Rhys Williams, cyn i’r Almaen daro’n ôl ar unwaith drwy Christopher Wittig i roi ei dîm ar y blaen unwaith eto.

Wrth sgorio, daeth Wittig yn gyfartal â chyfanswm goliau Tim Heinze (12), deilydd y record genedlaethol.

Aeth yr Almaenwyr ymhellach ar y blaen drwy Fischer, ond tarodd Cymru’n ôl unwaith eto wrth i Williams rwydo ag ergyd isel.

Bydd yr ail gêm yn dechrau am 6 o’r gloch heno.