Mae ras 10k Abertawe wedi cael ei chynnal heddiw (dydd Sul, Medi 19), wrth i’r digwyddiad ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed eleni.

Richie Powell oedd y cystadleuydd cyntaf i groesi’r llinell derfyn wrth ennill y ras cadeiriau olwyn.

Kieran Clements gipiodd y fuddugoliaeth yn ras y dynion wrth orffen mewn 29 munud a 57 eiliad, gyda Natasha Cockram yn fuddugol yn ras y menywod (33 munud, 32 eiliad).

Roedd Abed Teweldebrhan yn ail ymhlith y dynion, gan orffen mewn 30 munud a phedair eiliad, a Dewi Griffiths yn drydydd mewn 30 munud a 12 eiliad.

A hithau’n dathlu’r deugain eleni, cafodd y cystadleuwyr oedd yn rhedeg am dipyn o hwyl eu hannog i wisgo gwisg ffansi’r 80au wrth gystadlu yn y ras.

Mae modd gweld yr holl ganlyniadau ar wefan y ras.