Mae adroddiadau o’r newydd y gallai gemau rygbi Cymru gael eu dangos yn ecsgliwsif ar Amazon Prime, gyda’u sylwebaeth eu hunain yn Gymraeg.
Mae’r sïon wedi’u cyhoeddi yn The Rugby Paper yr wythnos hon.
Bydd Cymru’n herio Seland Newydd, De Affrica, Awstralia a Ffiji yn yr hydref a phe bai’r adroddiadau’n gywir, dyma fyddai’r tro cyntaf i gemau Cymru beidio â bod ar gael ar deledu daearol heb fod angen talu i’w gwylio.
Mae’n rhaid talu i danysgrifio i wasanaeth Amazon.
Hyd yn hyn, mae cadw rygbi ar deledu daearol yn golygu bod opsiwn ar gael i wylwyr gael sylwebaeth yn Gymraeg ar gyfer gemau.
Ond mae’n debyg bod Amazon yn gwrthod rhoi’r hawl i S4C sylwebu ar y gemau, a does dim sicrwydd ar hyn o bryd y bydd uchafbwyntiau ar gael chwaith.
Cafodd S4C ganiatâd gan y cwmni Americanaidd i ddangos gemau’r hydref y llynedd.
Mae’r erthygl yn The Rugby Paper yn dweud bod S4C yn dal yn obeithiol y bydd modd dod i gytundeb i ddarlledu’r gemau.
Adeg gemau’r hydref y llynedd, dywedodd Huw Llywelyn Davies wrth golwg ei bod hi’n bwysig sicrhau bod cynulleidfaoedd Cymraeg yn dal yn gallu gwylio gemau pe bai Amazon yn parhau i’w darlledu.
“Mae’r ffaith fod S4C wedi cael cytundeb yn dipyn o glod i Sue Butler [y Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon] a’i thîm bo nhw wedi cael yr hawliau, yn enwedig gan fod Amazon yn dod i mewn iddi am y tro cynta’ i bob pwrpas,” meddai.
“Maen nhw eisiau cael gwerth eu harian. Pe bai’r gemau yma ar Amazon yn unig, bydde hi llawer, llawer mwy anodd i’r cefnogwyr weld y gemau.”