Mae Heddlu Swydd Bedford yn cynnal ymchwiliad yn dilyn honiadau bod un o chwaraewyr pêl-droed Abertawe wedi cael ei sarhau’n hiliol yn ystod y gêm yn Luton ddoe (dydd Sadwrn, Medi 18).
Cafodd y sylwadau honedig eu gwneud gan gefnogwr Luton yn erbyn yr amddiffynnwr Rhys Williams wrth i’w dîm gipio pwynt yn dilyn gêm gyfartal 3-3 yn y Bencampwriaeth.
Cafodd y dyfarnwr Tony Harrington wybod am yr honiadau cyn trosglwyddo’r digwyddiad i’r heddlu ar ddiwedd y gêm.
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi “condemnio hiliaeth a sarhad o bob math”, gan ychwanegu “nad oes lle iddo yn y byd pêl-droed nac mewn bywyd”.
Maen nhw wedi diolch i’r heddlu ac i Glwb Pêl-droed Luton am eu hymateb, ac mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau er mwyn ceisio adnabod y sawl oedd yn gyfrifol.
Mae Abertawe hefyd yn trafod y sefyllfa â Chlwb Pêl-droed Lerpwl, sydd wedi rhoi Rhys Williams ar fenthyg i’r Elyrch.