Sgoriodd Kayleigh Green ddwywaith wrth i ferched Cymru sicrhau perfformiad rhagorol o 6-0 yn erbyn Kazakhstan neithiwr.

Hon oedd eu gêm ragbrofol agoriadol yng Nghwpan y Byd i Fenywod ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Yn ogystal â goliau Green fe sgoriodd Natasha Harding a Rachel Rowe cyn i Gemma Evans a Ceri Holland sgorio wrth benio a hynny yn ystod amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm i roi’r sglein ar fuddugoliaeth o 6-0.

Deallus

Bu’n berfformiad gwych i hyfforddwr Cymru Gemma Grainger, gyda’r tîm yn awyddus i wneud argraff gynnar mewn grŵp anodd sy’n cynnwys y ffefrynnau, Ffrainc.

Sgoriodd Green gydag ergyd wrth iddi droi yn y 17eg munud gyda Harding yn dyblu’r fantais ar ôl hanner awr.

Er gwaethaf eu rheolaeth o’r gêm, bu’n rhaid i’r Cymry aros tan y 54ain munud i gynyddu eu mantais wedi i Rowe sgorio gyda tharan o ergyd o 30 llath wedi pas ddeallus gan Jess Fishlock.

Trodd Rowe yn ddarparwr yn y 71ain munud pan groesodd y bêl i Green i sgorio ei 13eg gôl rhyngwladol.

Roedd yr ymwelwyr, oedd wedi colli pob un o’u wyth gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd blaenorol, yn brwydro’n dda ond fe wnaethon nhw flinto tua’r diwedd gyda Evans a Holland yn sgorio yn y munudau olaf.