Bydd y Wal Goch yn “allweddol” i lwyddiant tîm merched Cymru yn yr ymgyrch i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, meddai’r rheolwr Gemma Grainger.

Daw hyn wrth i Gymru baratoi i herio Kazakhstan ar Barc y Scarlets heno (nos Wener, 17 Medi), gyda’r gic gyntaf am 7:15.

Yna ar gyfer yr ornest nesaf bydd tîm Gemma Grainger yn teithio i Estonia ar gyfer gêm ar 21 Medi.

Mae Hannah Cain wedi cael ei gorfodi i dynnu’n ôl o’r garfan oherwydd anaf, ond does gan Gymru ddim pryderon newydd am anafiadau.

Morgan Rogers sydd wedi cael ei galw fewn i gymryd lle Cain.

Mae’r chwaraewyr canol cae Angharad James a Jess Fishlock ill dau wedi gallu gwneud y daith adref o’r Unol Daleithiau lle maen nhw’n chwarae eu pêl-droed, tra bod Natasha Harding, Hayley Ladd a Rachel Rowe hefyd ar gael.

Bydd cefnogwyr yn dychwelyd ar gyfer gêm Cymru gyda Kazakhstan am y tro cyntaf ers i bandemig Covid-19 ddechrau.

“Dyna’r peth mwyaf cyffrous i mi,” meddai Gemma Grainger.

“Roeddwn i yn gêm dynion Cymru yn erbyn Estonia a chlywais 21,000 o gefnogwyr yn canu’r anthem, gallaf ddweud yn onest nad ydw i erioed wedi profi teimlad felly mewn stadiwm pêl-droed, roedd yn arbennig ac mae’n fy nghyffroi, gall cael y cefnogwyr yn y gêm chwarae rhan enfawr yn ein llwyddiant.

“Mae’n mynd i fod mor braf cael y cefnogwyr yn y stadiwm eto a hefyd ein ffrindiau a’n teulu.”

“Allweddol”

Ychwanegodd Gemma Grainger: “Mae’r grŵp o chwaraewyr sy’n cynrychioli Cymru wir yn grŵp arbennig o unigolion.

“Mae’r sylfeini wedi’u gosod dros y blynyddoedd diwethaf i’r tîm gyrraedd twrnament mawr am y tro cyntaf a’n gobaith yw adeiladu ar y sylfeini hynny dros y misoedd nesaf i gyrraedd y nod hwnnw.

“Fodd bynnag, rydym angen eich cefnogaeth i gyrraedd y twrnament hwnnw.

“Bydd y Wal Goch yn allweddol i’n llwyddiant.

“Ni allwn aros i’ch gweld yn ein gêm yn erbyn Kazakhstan ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener lle rydym yn croesawu cefnogwyr yn ôl am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020 ac rydym yn addo y byddwn yn rhoi perfformiad y byddwch yn falch ohono.

“Gyda’n gilydd, gadewch i ni greu hanes.”