Ddylai’r cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru i gydweithio ar ddiddordebau cyffredin “ddim bod yn syndod i neb”, yn ôl aelod blaenllaw o’r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

Daeth datganiad ar y cyd gan y ddwy blaid yr wythnos ddiwethaf, wrth i Gymru barhau i ymdopi ag effeithiau Covid-19, yr argyfwng hinsawdd a’r bygthiad i ddatganoli.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw am adeiladu “dyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws”.

Mae lle i gredu nad yw’r cytundeb yn gyfystyr â chlymbleidio ffurfiol, ond fod angen cefnogaeth ar y Llywodraeth i basio rhai deddfau gan nad oes ganddyn nhw fwyafrif clir.

Datganiad

“Wrth i Gymru baratoi am ddyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws; wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i ganlyniadau parhaus ymadael â’r Undeb Ewropeaidd; a’r bygythiad i ddatganoli mae’n bwysicach nac erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobl Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin,” meddai’r datganiad ar y cyd.

“Cynhaliwyd trafodaethau dechreuol adeiladol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Llafur Cymru i edrych ar ffyrdd o adeiladu cenedl fwy cyfartal, cyfiawn a democrataidd i bawb.

“Mae’r trafodaethau hyn yn parhau i archwilio cytundeb cydweithredu uchelgeisiol i’w seilio ar nifer o flaenoriaethau polisi penodol, yn ogystal â threfniadau llywodraethiant lle gall Plaid Cymru a Llywodraeth Llafur Cymru weithio gyda’i gilydd i gyflawni dros Gymru.”

‘Cefnogi a phleidleisio dros Lafur yn rheolaidd’

Yn ôl Darren Millar, sydd wedi bod yn lleisio barn ar raglen Sunday Politics Wales y BBC, mae Plaid Cymru wedi bod yn “cefnogi a phleidleisio dros Lafur yn rheolaidd”.

“Ddylai’r math hwn o bact Llafur-Plaid ddim bod yn syndod i neb,” meddai.

“Mae gwleidyddion Plaid Cymru dw i wedi’u gweld yn y Senedd eleni a chyn yr etholiadau diwethaf wedi bod yn cefnogi a phleidleisio dros gyllidebau a pholisïau eraill Llafur yn rheolaidd.

“Yr hyn dw i’n poeni yn ei gylch ydi y bydd hwn yn bact arall sydd ag obsesiwn go iawn am newidiadau cyfansoddiadaol a cheisio datganoli rhagor o bwerau o San Steffan ar adeg pan fo angen i holl ymdrechion Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r argyfwng yn ein Gwasanaeth Iechyd, sicrhau ein bod ni’n helpu busnesau i adfer ar ôl Covid a helpu ein system addysg i ddal i fyny â’r holl fisoedd coll hynny o ran addysg ein pobol ifanc.

“Dyna dw i’n credu mae pobol Cymru eisiau i bobol ganolbwyntio arno, nid y math o newid cyfansoddiadol a fydd, yn ddiau, wrth galon unrhyw gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.”

Llafur a Phlaid Cymru’n croesawu’r cytundeb

Ond mae Llafur a Phlaid Cymru’n croesawu’r cytundeb i gydweithio, gan bwysleisio nad yw’r 30 aelod sydd gan Lafur bob amser am fod yn ddigon i sicrhau newidiadau go iawn.

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, eisoes wedi dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar ei lywodraeth.

Yn ôl Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, mae’r cytundeb “yn fater o wleidyddiaeth aeddfed”.

“Mae’n fater o fynd i’r afael â’r materion mawr rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae gyda ni Brexit, mae gyda ni Covid, mae gyda ni’r argyfwng hinsawdd.

“Dw i’n credu bod pobol, y cyhoedd, yn gwerthfawrogi bod gwleidyddion yn dod ynghyd ar lefel gydsyniol i gytuno ar rai o’r materion mawr i gael symud pethau yn eu blaen, a dw i’n credu y gallai Llywodraeth San Steffan ddysgu tipyn gan y math yma o ddull.

“Ond mae rhai o’r materion mwyaf yn bwysicach o lawer nag elwa’n wleidyddol.

“Mae angen y consensws arnom ni er mwyn gallu pasio deddfau mawr i gael gwneud newidiadau pwysig yng Nghymru.”

Y cyhoeddiad yn ‘syndod’

Yn ôl Huw Irranca-Davies, Aelod Llafur o’r Senedd dros Ogwr, roedd y cyhoeddiad ynghylch y cytundeb yn “gymaint o syndod i ni ag unrhyw un arall”, ond mae’n dweud bod y cytundeb i’w groesawu serch hynny.

“Gadewch i ni fod yn onest, gwleidyddiaeth aeddfed yw hyn oherwydd, ar ôl etholiad Mai, doedd gyda ni ddim mwyafrif clir.

“Fe gawson ni 30 sedd, ond dydy hynny ddim yn ddigon i lywodraethu’n sefydlog.

“A hefyd, rydych chi’n llywodraethu er lles Cymru ac nid er lles Llafur Cymru.

“Ac mae hynny’n golygu estyn allan, gyda llaw, i’r holl bleidiau ac rydyn ni’n deall bod y prif weinidog wedi ysgrifennu at y ddwy blaid i ddweud ‘Ble mae gennym ni dir cyffredin? Ble gallwn ni gytuno er lles Cymru? Gallwn ni gael llwyfan gyda’n gilydd.

“Ac fe wnaeth Plaid Cymru ymateb.”

Cydweithio ond nid clymbleidio

Er ei fod yn pwysleisio’r angen i gydweithio, mae Huw Irranca-Davies yn gwrthod yr awgrym fod angen clymbleidio “ar hyn o bryd”.

“Aelod Llafur a Chydweithredol o’r Senedd ydw i,” meddai.

“Mae cydweithio yn rhan o’m teitl.

“Dw i’n hoffi’r syniad fod gyda ni gytundeb cydweithredol yn cael ei ffurfio nawr a fydd yn ffurfio rhan o lywodraethiant Cymru yn y dyfodol am y pedair neu bum mlynedd nesaf.

“Dw i’n cytuno â’r syniad o ddiwygio’r Senedd.

“Mae hon yn ddemocratiaeth sy’n aeddfedu, does gennym ni ddim digon o rym, does gennym ni ddim digon o graffu ac mae angen mwy o graffu a diwygio etholiadol arnom.

“Dyna un peth, ond fe fydd pethau eraill hefyd.”

Siambr y Cynulliad

Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru am gydweithio ar “ddiddordebau cyffredin”

Cyhoeddi datganiad wrth i Gymru barhau i ymdopi ag effeithiau Covid-19

 

Rhagor o ymateb:

Trafodaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn ‘gyfle i ailosod yr agenda ar gyfer y Gymraeg’

Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r trafodaethau, ond bod angen i’r ddwy blaid ystyried yr hyn sydd ei angen ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Llafur yn ceisio “gwneud eu bywydau’n haws” with gydweithio â Phlaid Cymru, yn ôl sylwebydd gwleidyddol

Jacob Morris

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi gwneud addewid i gydweithio ar bolisïau

“Syndod” sylwebydd gwleidyddol ynghylch cytundeb Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd

Jacob Morris

Cytundeb sy’n “dangos bod Llafur a Phlaid Cymru yn gallu cydweithio â’i gilydd fel bloc cryf yn erbyn y Ceidwadwyr”