Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith yn gobeithio y bydd y trafodaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn gyfle i ailosod yr agenda ar gyfer y Gymraeg.
Mewn datganiad ddoe (14 Medi), dywedodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru eu bod nhw’n trafod cydweithredu posib yn y Senedd.
Pwysleisia’r ddwy blaid mai cydweithio fyddai’r cytundeb, nid clymblaid, er mwyn ‘sicrhau ‘trefniadau llywodraethiant lle gall Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru weithio gyda’i gilydd i gyflawni dros Gymru’.
Galwadau
Mae Dyfodol i’r Iaith, mudiad sy’n gweithredu er lles y Gymraeg, wedi croesawu’r trafodaethau ac yn dweud eu bod nhw am bwyso ar y ddwy blaid i weld y trafodaethau fel cyfle i ystyried yr hyn sydd ei angen ar gyfer creu miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Fel rhan o’r anghenion hynny, mae Dyfodol i’r Iaith yn dweud y dylid blaenoriaethu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chyflwyno rhaglen hyfforddi Cymraeg uchelgeisiol i staff sy’n gweithio ym maes addysg.
Maen nhw hefyd yn dweud bod angen dyrchafu statws Is-Adran y Gymraeg o fewn y Llywodraeth.
Dylid gweithredu ar fyrder yn unol ag argymhelliadau adroddiad Dr Simon Brooks ar ail gartrefi, meddai’r mudiad, ac mae angen llunio polisi Cynllunio sy’n gwarchod y Gymraeg ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai hefyd.
Ymhlith eu galwadau, mae Dyfodol i’r Iaith yn dweud bod angen ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a chryfhau statws yr iaith yn y sector breifat.
Yn ôl y mudiad, dylid datblygu cynllun Arfor i hybu’r iaith a datblygu’r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg, hefyd.
Mae rhaglen Arfor yn weithredol yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr, a’i fwriad yw cefnogi creu mwy o swyddi, a gwell swyddi, yng nghadarnleoedd yr iaith, a chefnogi parhad a thwf y Gymraeg drwy hynny.
Yn olaf, mae Dyfodol i’r Iaith yn dweud y dylid cynyddu’r defnydd o Gymraeg yn y Senedd, gan gynnwys ymhlith arweinyddion a gweinidogion.
“Byddwn yn pwyso ar y ddwy Blaid i adnabod y trafodaethau hyn fel cyfle i ystyried gwir anghenion y Gymraeg er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.