Mae gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru mewn trafodaethau ynghylch cytundeb cydweithredu posibl yn y Senedd.
Dywedodd datganiad gan y ddau grŵp ddoe (ddydd Mawrth, 14 Medi) eu bod yn edrych ar ble y gallan nhw gydweithio.
Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes, fu’n gohebu o’r Senedd am dros ugain mlynedd, ceisio gwneud eu “bywydau’n haws” yw nod Llafur Cymru.
“Dewch i ni fod yn onest, does dim llawer o wahaniaeth rhwng y ddwy Blaid ar eu polisïau a’u blaenoriaethau gwleidyddol,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n gyfleus, felly, i Lafur daro cytundeb fel hyn. Mae’n debyg mai paratoi yw ei nod er mwyn pleidleisio ei chyllideb drwodd gan fod hynny’n flaenoriaeth i unrhyw lywodraeth.
“Os fedran nhw gael cytundeb ar hwnna mae’n gwneud bywydau Llafur yn haws iddyn nhw.
“Dydw i ddim yn credu y bydd y Llywodraeth yn ddigon parod i ildio pethau sylfaenol, ond mae yna ddigon o dir cyffredin rhyngddyn nhw i gyd-dynnu.”
Cydweithio nid clymbleidio
Enillodd Llafur etholiad Senedd Cymru ym mis Mai ond ni enillodd y blaid fwyafrif clir.
Mae’n golygu bod angen pleidleisiau gan y gwrthbleidiau i basio mesurau yn y Senedd ar bethau fel cyllidebau a deddfwriaethau.
Ond mae’r ddwy blaid yn pwysleisio mai cydweithio ac nid clymblaid yw’r cytundeb hwn.
Nod y pleidiau yw sicrhau ‘trefniadau llywodraethiant lle gall Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru weithio gyda’i gilydd i gyflawni dros Gymru’.
“Yn wahanol i San Steffan, mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd yng Nghymru oherwydd y system etholiadol sydd gyda ni sy’n golygu ei bod yn anodd i unrhyw blaid fedru ennill mwyafrif clir,” ychwanegodd Gareth Hughes.
“Yn debyg iawn i’r sefyllfa yn yr Alban gyda’r Blaid Werdd mewn cytundeb gyda’r SNP ar hyn o bryd. Felly pan mae yna system ble nad oes fwyafrif clir, mae’n fwy tebygol bod angen taro bargeiniau fel hyn.”
Plaid Cymru
Mae Gareth Hughes yn rhagweld y bydd Plaid Cymru o bosib yn ei chael hi’n anodd i ddarbwyllo cefnogwyr y blaid ar lawr gwlad.
“Mae’n rhaid bod Plaid Cymru yn teimlo ei bod allan o’r lŵp, gan mai nhw yw’r trydedd plaid yn y Senedd, felly mae hyn yn rhoi tipyn o gyfle iddyn nhw gael dylanwad ar bolisïau,” meddai.
“Bydd rhai o’u cefnogwyr tu hwnt i’r Bae fel y Cymoedd, er enghraifft, yng Nghaerffili ble mae Plaid Cymru yn herio’r Blaid Lafur drwy’r amser, efallai fyddai hynny’n gwneud hi’n fwy anodd i aelodau ar lawr gwlad dderbyn.
“Ond mae’n siŵr ei bod wedi gwneud gwaith paratoi ar hynny ac yn ffyddiog y gallen nhw lwyddo.
Anodd i Adam Price
Mae disgwyl i Mark Drakeford gamu lawr fel arweinydd Llafur Cymru erbyn yr etholiad nesaf, ond mae Gareth Hughes yn rhagweld y gallai cytundeb fel hyn gael effaith ar Adam Price.
“Mae e’n mynd i fod yn anodd i Adam yn y pendraw. Dewch i ni edrych nôl ar sefyllfa pan oedd y ddwy blaid hyn yn cydweithio a hynny fel clymblaid yn 2007.
“Pan ddaeth etholiad wedi hynny, roedd Plaid Cymru bron yn gwadu penderfyniadau roedden nhw’n rhan ohonyn nhw, gan feirniadu Llafur am ei record, sy’n rhywbeth go-rhyfedd i wneud pan ydych chi wedi bod yn rhan o’r un llywodraeth honno.
“Ond ei buaswn i’n arweinydd Plaid [Cymru], mae’n debyg byddai’r cytundeb hwn yn dod i ben rhyw flwyddyn cyn yr etholiad nesaf.”
Dyfodol y Ceidwadwyr
Yn sgil y penderfyniad hwn mae Gareth Hughes yn gweld bod yna fanteision ac anfanteision gan y Ceidwadwyr fel gwrthblaid amlwg ar lawr y siambr.
“Mae yna un fantais i’r Ceidwadwyr. Mae gyda nhw’r cyfle i ddangos mai nhw ydy’r wir wrthblaid a bod y Blaid yn erbyn y Llywodraeth a Phlaid Cymru sydd bron yn un blaid.
“Ond y diffyg iddyn nhw, yw cael unrhyw ddylanwad ar unrhyw fesurau sy’n mynd drwodd.”
Mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi cyhuddo Plaid Cymru o fod yn ‘weision’ i Lafur yn hytrach na’i dal i gyfrif.