Mae melin drafod Sefydliad Bevan yn rhybuddio bod problemau pobol gyda dyledion yn debygol o gynyddu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Yn ôl ymchwil, mae 10% o’r holl aelwydydd wedi disgyn ar ei hôl hi gyda biliau rhwng Ionawr a Mai 2021.

Dros yr un cyfnod roedd 230,000 o aelwydydd, 17% o’r holl aelwydydd, wedi benthyg arian.

Dywed Sefydliad Bevan bod effaith y pandemig wedi bod yn hynod anhafal, gyda’r rhai sydd wedi gallu gweithio gartref yn gweld lleihad mewn gwariant ac o ganlyniad yn gallu talu dyledion.

Ar y llaw arall mae sefyllfa’r rhai oedd eisoes mewn risg o gael problemau gyda dyledion wedi dirywio.

“Effaith frawychus”

Ac mae yna bryderon y gallai’r sefyllfa waethygu ymhellach wrth i waharddiad ar droi pobol allan o’u tai a’r cynnydd mewn credyd cynhwysol ddod i ben.

Ar yr un pryd ag y mae’r cymorth hwn yn dod i ben, bydd costau byw yn cynyddu ymhellach tra bod pryderon o hyd am yr economi.

O ystyried effaith y pandemig ar ddyled, dywed Sefydliad Bevan bod angen mabwysiadu dull newydd o gefnogi pobol mewn dyled.

Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan: “Mae’r dystiolaeth rydym wedi’i ddatgelu yn codi pryderon gwirioneddol y gallai’r pandemig gael effaith frawychus ar unigolion sydd â dyledion.

“O ystyried effaith anghyfartal y pandemig ar ddyled, byddai hyn yn tanseilio unrhyw obeithion o sicrhau adferiad teg.

“Dylai Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig gymryd camau i helpu’r rhai sydd wedi mynd i ddyled o ganlyniad i’r pandemig i glirio ei dyled.

“Rhaid i’r ddwy Lywodraeth hefyd sicrhau bod mesurau ataliol cryfach ar waith i atal mwy o bobol rhag mynd i ddyled yn y dyfodol.”