Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o greu gwefan a phodlediad gwrth-Semitaidd a hiliol yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe heddiw (Dydd Mercher, 15 Medi).

Mae James Allchurch, 49, sy’n hanu o Sir Benfro, wedi’i gyhuddo o sefydlu’r wefan ‘Radio Aryan’ er mwyn creu a dosbarthu podlediadau oedd yn lladd ar bobol ddu ac Iddewon, ac mae wedi’i gyhuddo o gyhoeddi deunydd ar y safle yn honni bod pobol ddu a phobol wyn mewn brwydr hiliol.

Yn Llys y Goron Abertawe heddiw, bydd yn cyflwyno ple a bydd gwrandawiad er mwyn paratoi at yr achos llys.

Gwadodd James Allchurch 15 cyhuddiad o ddosbarthu clipiau sain gyda’r bwriad o ennyn casineb hiliol cyn neu yn ystod Tachwedd 2019 mewn gwrandawiad cychwynnol yn Llys Ynadon Hwlffordd fis diwethaf.

Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd bod Radio Aryan wedi bod yn weithredol ers 2015, a bod 12 o’r cyhuddiadau yn gysylltiedig â deunydd yn ymwneud â phobol ddu neu o dras leiafrifol arall, a bod y tri arall yn ymwneud â phodlediad gwrth-Semitiaidd.

Ar y pryd, gofynnodd i’r llys ei gyfarch fel Sven Longshanks, gan mai dyna’r enw mae’n ei ddefnyddio wrth “gyhoeddi gwaith oes”.

Dywedodd Kevin Smallcombe, cyfreithiwr ar ran James Allchurch, mai materion ynghylch “ymchwil academaidd, rhyddid mynegiant a newyddiaduraeth” fyddai’n codi yn yr achos.