Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi datgan ei bryder am yr effaith y mae cyfyngiadau Covid wedi’u cael ar gyfleoedd dyddiol pobl i siarad Cymraeg.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r arolwg heddiw (dydd Mercher, 15 Medi) yn dangos cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith yn ddyddiol o 53% yn 2015 i 56% yn 2020.

Fodd bynnag, dim ond tan fis Mawrth 2020 y cynhaliwyd yr arolwg, cyn i gyfyngiadau ddod i rym yng Nghymru.

Mae canlyniadau arolwg sy’n dangos cynnydd yn y niferoedd sy’n siarad yr iaith bob dydd yn newyddion calonogol, medd Comisiynydd y Gymraeg, ond rhybuddiodd y gallai Covid-19 arwain at ostyngiad yn y ffigyrau.

Dengys canlyniadau Arolwg Defnydd Iaith Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019 i 2020 bod 56% o siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith bob dydd, ffigwr sy’n cymharu â 53% yn 2013 i 2015.

Canlyniadau’r arolwg

  • 12% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg bob dydd
  • 4% yn siarad yr iaith yn wythnosol
  • 4% yn ei siarad yn llai aml
  • Gallai 1% siarad yr iaith ond erioed wedi ei siarad
  • 78% ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Yn sicr, mae’r canlyniadau yn dangos cam i’r cyfeiriad cywir.

“Er hynny, mae targed Llywodraeth Cymru o ddyblu’r ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bod dydd erbyn 2050 yn uchelgeisiol iawn.

“Yr her nawr yw edrych ar yr ystadegau a gweld sut gellir sicrhau rhagor o gynnydd.

“Yn ystod yr hydref byddaf yn cyhoeddi Adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg, sef adroddiad cynhwysfawr sy’n pwyso a mesur y gwahanol ddatblygiadau a’r ffactorau sydd wedi effeithio ar yr iaith rhwng 2015 a 2020.

“Bydd yr adroddiad yn fodd o roi cyd-destun i ganlyniadau’r arolwg, a bydd hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu uchelgeisiol i sicrhau rhagor o gynnydd.”

Cyllid adfer gan Lywodraeth Cymru

Ddoe (Dydd Mawrth 14) fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd £2.4 miliwn o gyllid adfer wedi Covid yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwaith i gefnogi sgiliau Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg.

Er mwyn cefnogi Rhaglen Waith Cymraeg 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i gefnogi dysgwyr Cymraeg sy’n ymgymryd â rhaglenni trochi hwyr mewn ysgolion, a chyllid o £200,000 i helpu’r Eisteddfod Genedlaethol.

Dyweodd Jeremy Miles: “Mae’r cyllid ry’n ni wedi’i gyhoeddi heddiw yn rhan o’n strategaeth ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ledled Cymru yn ystod y deng mlynedd ar hugain nesa.

“Rwy’n credu’n gryf bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy’n benderfynol o helpu mwy a mwy ohonon ni i ddysgu’n hiaith ac i’w defnyddio.”

Eisteddfod Llanrwst 2019

Dyrannu £2.4m o gyllid i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg wedi’r pandemig

Darparu cyllid adfer ar ôl Covid i gefnogi dysgwyr Cymraeg sy’n ymgymryd â rhaglenni trochi hwyr, ac i helpu’r Eisteddfod Genedlaethol