Bydd £2.4 miliwn o gyllid adfer wedi Covid yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwaith i gefnogi sgiliau Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg.
Er mwyn cefnogi Rhaglen Waith Cymraeg 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i gefnogi dysgwyr Cymraeg sy’n ymgymryd â rhaglenni trochi hwyr mewn ysgolion, a chyllid i helpu’r Eisteddfod Genedlaethol.
Daw’r cyhoeddiad wrth i ganlyniadau’r Arolwg Defnydd Iaith ar gyfer 2019-20 ddangos bod mwy na hanner (56%) y siaradwyr Cymraeg tair oed neu hŷn yn siarad yr iaith bob dydd.
Mae hynny’n gynnydd o’r 53% yn 2013-15, pan gafodd yr arolwg diwethaf ei gynnal.
Dangosa’r arolwg hefyd bod siaradwyr Cymraeg rhwng 3 a 15 oed yn fwy tebygol nag unrhyw grŵp arall o siarad Cymraeg bob dydd (67%).
Mae 45% o siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed bellach yn defnyddio eu Cymraeg bob dydd, cynnydd o 5% ers yr arolwg diwethaf.
Mae bron i hanner y siaradwyr Cymraeg (48%) yn ystyried eu hunain yn rhugl, ac roedd bron i ddau o bob tri siaradwr Cymraeg dros 16 oed fel arfer yn teimlo’n hyderus wrth siarad yr iaith.
Dywedodd 69% o siaradwyr Cymraeg bod siarad Cymraeg yn rhan bwysig o bwy ydyn nhw – 49% yn cytuno’n gryf, a 20% yn tueddu i gytuno.
Trochi hwyr
Bydd £2.2 miliwn o gyllid yn mynd tuag at raglen trochi hwyr mewn ysgolion.
Mae dysgu drwy drochi’n helpu disgyblion sydd ddim wedi arfer defnyddio eu Cymraeg o ddydd i ddydd, neu sydd heb sgiliau Cymraeg i’w defnyddio yn eu dysgu o ddydd i ddydd.
Wrth i fwy o deuluoedd symud i Gymru a rhoi plant hŷn mewn addysg cyfrwng Cymraeg, mae mwy o bwysau ar wasanaethau trochi sy’n rhoi cymorth iddyn nhw allu symud at ddysgu drwy’r Gymraeg.
Bydd yr arian hefyd yn cefnogi disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a gollodd y cyfle, yn ystod y pandemig, i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd.
Yr Eisteddfod
Fe fydd £200,000 o gyllid untro’n cael ei ddarparu i’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd, a fydd yn helpu i ailadeiladu lefelau staffio wedi’r pandemig.
Yn ogystal â’u helpu i gynyddu nifer y staff, bydd yr arian yn cyfrannu at gynllun peilot a fydd yn sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliant i gefnogi cynhwysiant cymunedol a chymdeithasol mewn ardaloedd lle cynhelir yr Eisteddfod.
“I helpu i gyflawni’r nodau ry’n ni wedi’u hamlinellu yn ein strategaeth Cymraeg 2050 yng ngoleuni’r pandemig, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n cefnogi sefydliadau allweddol sy’n gweithio i gynyddu’r defnydd o’n hiaith ni,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg.
“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu rhoi cyllid adfer ar gyfer dysgu drwy drochi hwyr ac i’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r rhain yn rhannau hanfodol o’n cynlluniau i helpu mwy ohonon ni i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.”
“Perthyn i ni gyd”
Ychwanegodd Jeremy Miles ei fod yn falch o ganfyddiadau’r Arolwg Defnydd Iaith ar gyfer 2019-20.
“Mae’r rhain yn rhoi un golwg defnyddiol, meintiol i ni ar sut ry’n ni’n defnyddio’r Gymraeg yng Nghymru,” meddai.
“Er bod tueddiadau cadarnhaol i’w gweld yn y data a bod angen dathlu’r rheini, wrth i ni barhau i weithredu Cymraeg 2050 byddwn ni’n edrych ar yr holl ystadegau a ffynonellau ymchwil sydd ar gael i ni i sicrhau ein bod ni’n seilio’n gwaith ar dystiolaeth, a bod y dystiolaeth honno’n gymorth i wybod beth sy’n gweithio neu beidio.
“Mae’r cyllid ry’n ni wedi’i gyhoeddi heddiw yn rhan o’n strategaeth ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ledled Cymru yn ystod y deng mlynedd ar hugain nesa’. Rwy’n credu’n gryf bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy’n benderfynol o helpu mwy a mwy ohonon ni i ddysgu’n hiaith ac i’w defnyddio.”