Mae rhai adar prin wedi dychwelyd i fawndir yn Eryri am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.

Daw hyn ar ôl cydweithrediad rhwng RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a ffermwyr y teulu Ritchie o Flaen y Coed, Ysbyty Ifan.

Roedd y prosiect wedi dechrau yn 2017, a dros y pedair blynedd diwethaf, maen nhw wedi bod yn ceisio adfer cynefinoedd drwy gymryd agwedd ffermio sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur a gwneud gwaith arloesol arall.

Fe gafodd adar y gylfinir a chwtiaid aur eu cofnodi’n ddiweddar ar ôl i’r mawndir gael ei adfer yn llwyddiannus.

Dyma’r tro cyntaf ers y 1990au i adar baru yn y rhan hon o’r rhostiroedd, sy’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Migneint.

Cydweithredu

Mae’r brodyr Ritchie, sy’n rhan o’r prosiect, yn denantiaid yn fferm Blaen y Coed yn rhan uchaf o Ddyffryn Conwy.

Roedden nhw wedi bod yn treulio’r pedwar gaeaf diwethaf yn ail-wlychu tirwedd y mawndir drwy ffurfio pyllau bach gydag argaeau.

“Mae’n wych cael clywed y gylfinir yn ôl yn Blaen y Coed,” meddai Edward Ritchie.

“Mae’r prosiect hefyd wedi helpu i ddarparu gwaith peiriannau arbenigol i’m brawd.

“Ac mae’r canlyniadau wedi caniatáu ar gyfer pori mwy gwasgaredig gan y defaid yn yr ardal, felly rydyn ni’n falch o’r ffordd mae pethau wedi mynd.”

Cors wedi ei adfer

‘Ysbrydoli’

Roedd David Smith, Uwch Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru, yn canmol y brodyr am eu gwaith.

“Mae’r llwyddiannau hyn yn dangos bod gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin o adfer byd natur yn gweithio, ac mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r brodyr Ritchie wedi llwyddo i gyfuno ymdrechion cadwraeth gyda’r dasg bob dydd o redeg eu busnes fferm,” meddai.

“Mae’n stori wych, a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli prosiectau tebyg yn y dyfodol.”