Fe fydd brechlynnau “atgyfnerthu” yn cael eu cynnig i bobl 50 oed a drosodd, rhai mewn cartrefi gofal a gweithwyr iechyd rheng flaen a gofal cymdeithasol, cyhoeddodd y Llywodraeth heddiw (14 Medi).
Yn ôl arbenigwyr fe ddylai’r brechlyn Pfizer/BioNTech gael ei ddefnyddio fel dos ychwanegol i fwy na 30 miliwn o bobl, gan ychwanegu ei fod yn ddiogel i gael ei roi ochr yn ochr â’r brechlyn ffliw arferol.
Mae’r rhai hynny sy’n agored i’r firws, ac unrhyw un rhwng 16 a 65 oed mewn grŵp sydd â risg o Covid, hefyd yn gymwys i gael y brechlyn.
Mae’r arbenigwyr wedi dewis Pfizer gan ddweud ei fod yn gweithio’n dda fel dos ychwanegol ac nad oes cymaint o sgil-effeithiau.
Fe fydd y brechlyn Pfizer yn gallu cael ei roi i bobl oedd wedi cael dau ddos o AstraZeneca cyn hyn.
Fe ddylai pobl dderbyn eu trydydd dos o leia’ chwe mis ar ôl derbyn yr ail ddos o’r brechlyn Covid.
Pan fydd rhagor o wybodaeth yn dod i law, fe fydd arbenigwyr yn edrych ar y posibilrwydd o roi brechlynnau “atgyfnerthu” i bobl iach o dan 50 oed.