Mae’r mwyafrif o bobol ifanc yn bryderus ynghylch newid hinsawdd, yn ôl astudiaeth wnaeth holi miloedd o bobol ifanc o bob cwr o’r byd.

Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar arolygon o 10,000 o blant a phobol ifanc a ganfu fod mwy na thri chwarter (77%) o’r farn bod y dyfodol yn frawychus.

Dywedodd dros hanner eu bod wedi teimlo’n ofnus, yn drist, yn bryderus, neu’n euog, a dywedodd bron i hanner (45%) fod eu pryderon yn effeithio’n negyddol ar eu bywyd bob dydd.

Mae pobol ifanc hefyd yn teimlo bod llywodraethau’n eu methu, yn bradychu cenedlaethau’r dyfodol, ac yn diystyru gofidion pobol am y mater, mae’r canfyddiadau’n awgrymu.

Mae llai na thraean (31%) yn credu bod llywodraethau’n gwneud digon i osgoi trychineb, ac mae bron i ddwy ran o bump (39%) yn dweud  bod ganddyn nhw ofn cael plant, er bod y ffigur yn amrywio’n eithaf eang rhwng gwahanol wledydd.

Canfyddiadau’r Deyrnas Unedig

Mae canfyddiadau’r Deyrnas Unedig, sy’n seiliedig ar 1,000 o bobol ifanc, yn dangos bod 72% yn gweld y dyfodol yn frawychus, a 38% yn dweud eu bod yn ansicr ynglyn a chael plant.

Mae tua dwy ran o dair (65%) o ymatebwyr y Deyrnas Unedig yn credu bod y Llywodraeth yn methu pobl ifanc, a dim ond traean (32%) sy’n credu ei bod yn gweithredu’n unol â gwyddoniaeth.

Dim ond chwarter (26%) sy’n credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud digon i osgoi trychineb.

“Erchyll”

Dywedodd Caroline Hickman o Brifysgol Caerfaddon, cyd-arweinydd yr astudiaeth: “Mae’r astudiaeth hon yn rhoi darlun erchyll o bryder yn ein plant a’n pobol ifanc am newid hinsawdd.

“Mae’n awgrymu am y tro cyntaf bod lefelau uchel o drallod seicolegol mewn ieuenctid yn gysylltiedig â diffyg gweithredu’r llywodraeth.

“Mae pryder ein plant yn ymateb cwbl resymegol o ystyried yr ymatebion annigonol i’r newid yn yr hinsawdd y maent yn ei weld gan lywodraethau.

“Beth arall sydd angen i lywodraethau ei glywed i weithredu.”