Bydd plant 12 i 15 oed yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn Covid-19, meddai Gweinidog Iechyd Cymru.
Daw hyn ar ol i brif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig argymell brechu’r grŵp oedran hwn ddoe (13 Medi), ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad.
Bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau gwahodd plant yn y grŵp oedran hwn yr wythnos hon, gyda’r brechu’n dechrau’r wythnos nesaf.
Fe fydd plant yn cael eu brechu mewn canolfannau brechu torfol, ac mewn rhai ysgolion.
“Byddwch yn cofio bod y Cydbwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI) wedi ystyried y cwestiwn o frechu pob plentyn 12 i 15 oed, a chynghori yn erbyn rhaglen frechu gynhwysol,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.
“Fodd bynnag, fe wnaethon nhw argymell bod y prif swyddogion meddygol yn edrych ar fuddion ehangach i iechyd a llesiant drwy frechu’r grŵp oedran yma.
“Ar ôl ystyried yn ofalus, mae’r prif swyddogion meddygol wedi argymell cynnig y brechlyn i blant a phobol yn eu harddegau yn y grŵp oedran hwn yn seiliedig ar iechyd cyhoeddus, gan ddweud y bydd yn lleihau’r amhariad i’w haddysg.
“Heddiw dw i wedi derbyn y cyngor hwn, a byddwn ni’n dechrau paratoi at wahodd pobol 12 i 15 oed sydd heb gael eu brechu eto i dderbyn brechlyn cyntaf Pfizer.
“A bydd y brechu’n dechrau’r wythnos nesaf.”
“Ddim yn orfodol”
Bydd plant a’u teuluoedd yn derbyn rhestr o fanteision a risgiau’r brechlyn, ac os oes anghytuno rhwng rhieni a phlant mae proses ffurfiol mewn lle i benderfynu pwy sy’n gwneud y penderfyniad.
“Nid yw’r brechlyn yn orfodol a gall pobl ddewis a ddylid cael y brechlyn ai peidio,” meddai Eluned Morgan.
“Bydd gwybodaeth briodol ar gael i blant a phobl ifanc a’u rhieni i’w helpu i wneud penderfyniad ynghylch cael y brechlyn. Mi fydd gofyn i rieni neu warcheidwaid rhoi caniatâd.
“Rwy’n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod gyda’i gilydd a ddylid cael y brechiad ai peidio.”
Dosys atgyfnerthu
Bydd pobol dros 50 oed, rhai mewn cartrefi gofal a gweithwyr iechyd rheng flaen a gofal cymdeithasol yn cael brechiad atgyfnerthu, gan ddechrau’r wythnos nesaf yng Nghymru hefyd.
Pfizer neu Moderna fydd yn cael eu rhoi i bawb, meddai’r Gweinidog Iechyd, waeth pa frechlyn gafodd rhywun y tro cyntaf.
Lle bo’n bosib, bydd y dosys atgyfnerthu’n cael eu rhoi yr un pryd â brechlynnau ffliw, meddai Eluned Morgan, gan ychwanegu eu bod nhw’n disgwyl y bydd mwy o bobol yn mynd yn sâl â’r ffliw dros y gaeaf.