Bydd Llywodraeth Cymru’n penderfynu nes ymlaen heddiw (14 Medi) a ydyn nhw am gynnig dos cyntaf o frechlyn Covid-19 i blant 12 i 15 oed.
Daw hyn wedi i bedwar prif swyddogol meddygol y Deyrnas Unedig argymell y dylid cynnig brechlyn Pfizer i’r grŵp oedran hwn.
Mae’r penderfyniad yn ystyried effaith y pandemig ar addysg plant, yn ogystal â’r risg i’w hiechyd meddwl wrth fethu’r ysgol, yn ôl y prif swyddogion meddygol.
Ychydig wythnosau’n ôl, fe wnaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI) benderfynu peidio argymell brechu plant 12 I 15 oed.
Ond mae penderfyniad y prif swyddogion meddygol yn ystyried materion ehangach nag effaith Covid-19 ar iechyd plant, megis yr effaith ar addysg.
Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i blant 12 i 15 oed yn Lloegr o wythnos nesaf ymlaen, gyda’r brechlynnau cael eu cynnig mewn ysgolion.
Mae tua 130,000 o blant yn gymwys i gael y brechlyn yng Nghymru, petai Llywodraeth Cymru’n gwneud yr un fath.
“Gwybodaeth syml, glir a hygyrch”
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi croesawu penderfyniad y prif swyddogion meddygol, ac yn dweud bod angen gwybodaeth syml, glir a hygyrch i helpu plant a’u teuluoedd i ddeall y penderfyniad.
“Dw i’n croesawu’r ffaith bod y prif swyddogion meddygol wedi gwneud penderfyniad a bod ein prif swyddog meddygol ni wedi cadarnhau fod hawliau plant wedi chwarae rhan ganolog yn y broses o benderfynu yma yng Nghymru,” meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
“Mae fy mhrif neges i Lywodraeth Cymru a’r prif swyddog meddygol wedi seilio ar yr angen a’r pwysigrwydd o wybodaeth syml, glir a hygyrch.
“Mae’r wybodaeth angen helpu plant a’u teuluoedd ddeall rhesymeg y penderfyniad, a sut maent wedi ystyried ystod o hawliau plant, gan gynnwys yr hawl i iechyd ac addysg.
“Mae angen i’r wybodaeth hefyd egluro’r glir buddiannau’r brechlyn, yn ogystal ag unrhyw risg ac unrhyw wybodaeth arall fydd angen arnyn nhw i wneud penderfyniad cytbwys.”