Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn newydd gwerth £48 miliwn o gyllid i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid – £40 miliwn – wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol.
Bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu’r sector gofal cymdeithasol i ymateb i’r heriau parhaus a achosir gan y pandemig, yn ôl Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd £8 miliwn arall yn ariannu nifer o flaenoriaethau penodol, gan gynnwys ymestyn y gronfa cymorth i ofalwyr, mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn, buddsoddi mewn lles y gweithlu gofal cymdeithasol ac mewn gwasanaethau preswyl i blant â phrofiad o fod mewn gofal.
“Gofal cymdeithasol yn uchel iawn ei werth inni yma yng Nghymru”
“Mae gofal cymdeithasol yn uchel iawn ei werth inni yma yng Nghymru ac rydym yn gofyn llawer o’r sector,” meddai Julie Morgan.
“Mae’n wynebu pwysau sylweddol o ganlyniad i’r pandemig ac – yn union fel staff y GIG – mae’r gweithlu wedi blino’n lân ar ôl gweithio mor galed cyhyd.
“Mae’r cyllid newydd hwn yn cydnabod yr heriau y mae’r sector yn eu hwynebu a bydd yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pwysau ariannol y mae’n eu hwynebu.
“Mae hefyd yn cynnwys cyllid newydd i fuddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth i wella gwasanaethau, yn unol â’n huchelgeisiau a’n hymrwymiadau.
“Byddwn yn parhau i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru ac, wrth i ni wella o’r pandemig, byddwn yn adeiladu sector gofal cymdeithasol cryf a chydnerth.”
Dyraniadau
Dyma ddyraniadau’r gronfa adfer ar gyfer gofal cymdeithasol:
- £40,000,000 miliwn i awdurdodau lleol
- £2,800,000 miliwn i’r Gronfa Ymyrraeth Deuluol i gefnogi llesiant plant a theuluoedd i ddargyfeirio achosion yn ddiogel rhag cofrestru amddiffyn plant
- £2,800,000 miliwn ar gyfer gwasanaethau preswyl rhanbarthol ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sydd ag anghenion cymhleth (llety diogel i blant ag anghenion cymhleth gynt)
- £1,000,000 filiwn i barhau â’r gronfa cymorth i ofalwyr
- £600,000 ar gyfer archwiliadau iechyd anabledd dysgu
- £220,000 i gefnogi pobl hŷn i ymwneud unwaith eto â’u cymunedau
- £100,000 i hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn
- £150,000 i gefnogi Cartref Plant Diogel Hillside
- £190,000 i wella’r cynnig llesiant i’r gweithlu gofal cymdeithasol
- £140,000 i ADSS Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r fframwaith adfer
“Gwella o’r pandemig”
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: “Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i wella o’r pandemig ac i symud ymlaen.
“Mae’r cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn rhan o becyn ehangach a fydd yn helpu gwasanaethau fel y rhain i reoli effeithiau parhaus Covid a darparu gofal o ansawdd uchel i bobl.”
“Dim datrysiad”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus y Ceidwadwyr Cymreig, Gareth Davies, eu bod nhw’n croesawu’r cyllid ond nad yw’n datrys y problemau sydd wedi cronni yn y system gofal cymdeithasol.
“Yn anffodus, dydi hwn ddim yn gynllun ar gyfer gofal cymdeithasol a ni fydd yn mynd i’r afael â’r ‘loteri cod post’ pan mae hi’n dod at ddarpariaeth yng Nghymru,” meddai Gareth Davies AoS.
“Does dim datrysiad yn cael ei gynnig yma, ac unwaith rydych chi’n rhannu hwn rhwng 22 cyngor, dydi o ond yn swm bach iawn o gymharu â’r hyn sydd ei angen.
“Fodd bynnag, mae sut mae’r arian hwn yn cael ei wario’n bwysig a dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw’r arian yn cael ei wario ar ddim byd arall, gyda chanllawiau llym i awdurdodau fel bod gennym ni hyder ei fod yn cael ei wario yn y meysydd bwriadedig.
“Rydyn ni wedi clywed ers tro gan weinidogion Llafur yng Nghymru y bydd eu cynllun mawr ar gyfer gofal cymdeithasol yn barod unwaith y bydd Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi eu cynllun ar gyfer Lloegr.
“Fodd bynnag, does gennym ni dal ddim syniad pryd fydd rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru.”