Roedd hi’n arwyddocaol bod yr holl drafodaeth ymlaen llaw am ddiwygiadau gofal cymdeithasol llywodraeth Lloegr yn ymwneud ag arian ag o ble yr oedd hwnnw’n dod.

Dim am natur y newid, dim am yr hyn sydd ei angen ar y gwasanaethau, a’r rhan fwya’ o’r dadlau’n ymwneud â safbwyntiau gwahanol o fewn y blaid Geidwadol ynghylch incwm a chyfoeth personol.