Mae rhwydwaith o bobol ar hyd arfordir Cymru sy’n rhoi eu hamser yn wirfoddol i lanhau sbwriel oddi ar ein traethau.
Un ohonyn nhw yw Sioned Williams sy’n gyfrifol am lanhau glan y môr Llandanwg ger Harlech yng Ngwynedd.
Mae hi’n dweud bod sbwriel ar draethau yn waeth yn y cyfnod covid.
A fyddech chi ddim yn credu’r rhai o’r pethau mae pobol yn eu lluchio, meddai.