Dyna ymateb Malcolm Allen bnawn Sul ar S4C wedi i Gareth Bale gwblhau hat-trig hwyr hwyr hwyr.

Sgoriodd arwr Cymru ei drydedd – a’r gôl i ennill y gêm – reit ar derfyn yr ornest ddramatig yn erbyn Belarus.

Fe gipiodd Cymru fuddugoliaeth gofiadwy mewn gêm gafodd ei chwarae yn Kazan yn Rwsia, ac yn y llun mae Jonny Williams a Gareth Bale yn dathlu’r drydedd gôl allweddol.