Dyna chi olygfa – llond cae o dractors yn sgleinio yn haul Sir Benfro. Roedd 98 o dractorau hen a newydd wedi ymgynnull yng nghae Canolfan Gymuned Camros ger Hwlffordd ar gyfer ‘Tractor Run’ ar Sadwrn olaf Awst. Roedd yna dractors Fordsons a Massey Fergusons cynnar yn ogystal â’r John Deers enfawr modern, a sawl un yn tynnu trêlyr ag ynddo blant a theulu, neu gi defaid – roedd merched yn sipian jin wrth fwrdd picnic mewn un ohonyn nhw!