A gaf ofyn i’n cyfryngau ddangos mwy o barch wrth ddisgrifio penrhyn Gŵyr – a pheidio’i alw’n “Y Gŵyr”, rhywbeth sy’n digwydd yn llawer rhy aml y dyddiau hyn?

Mae trigolion Gŵyr yn brwydro ers achau i berswadio pobl o’r tu allan i beidio â dweud ‘The Gower’ yn yr iaith Saesneg. Mae camddefnydd o’r fannod yn fwy na chamgymeriad ieithyddol – mae hefyd yn anwybyddu hanes Cymru. Mae ffiniau hen arglwyddiaeth Gŵyr yn dyddio’n ôl ganrifoedd i’r amser cyn y goresgyniad Normanaidd.

Mae Gŵyr hanesyddol yn cynnwys nid yn unig y penrhyn (Gŵyr Is Coed) ond hefyd y tiroedd mewndirol rhwng afonydd Llwchwr ac Aman i’r gorllewin a’r Twrch a’r Tawe i’r dwyrain (Gŵyr Uwch Coed).  Felly bob tro bydd rhywun yn rhoi’r fannod o flaen ‘Gŵyr’ byddan nhw’n anwybyddu bodolaeth talp helaeth o’n gwlad, gan gynnwys cymunedau pwysig megis Pontardawe, Clydach a Gorseinon.

Mae’n ddigon gwir y clywch y camddefnydd hwn yn aml – ond mae hyn yn adlewyrchu anwybodaeth a diffyg gofal gan y cyfryngau a swyddogion. Er enghraifft, rai blynyddoedd yn ôl ymddangosodd y teitl ‘Swansea and the Gower’ ar fap metrig newydd. Diolch i’r drefn fe syrthiodd yr Ordnance Survey ar ei fai yn dilyn ymgyrch gref gan Gyfeillion Gŵyr, gan gywiro’r teitl yn y mapiau dilynol.

Dywedodd y diweddar Wynford Vaughan-Thomas unwaith na fyddai neb oedd yn hanu o Abertawe na’r penrhyn yn rhoi’r fannod o flaen y gair Gŵyr, gan ychwanegu “wedi’r cwbl, yr enw yw Gŵyr ac nid Y Gŵyr.” Ond erbyn hyn, mae’r haint wedi lledu i’r iaith Gymraeg. Drannoeth Etholiad Cyffredinol 2015 fe glywais ohebydd gwleidyddol y BBC yn disgrifio etholaeth oedd wedi newid dwylo fel “Y Gŵyr”.  Dyna’r tro cyntaf i mi glywed y llithriad yn y Gymraeg, ond yn bell o fod y tro olaf, gwaetha’r modd.

Mae’r camgymeriad yn rhemp ar isdeitlau teledu, yn enwedig rhai Saesneg ar S4C. Cofiaf un rhaglen pan fu’r cyflwynydd natur Iolo Williams yn dweud y gair “Gŵyr”, a hynny’n hollol gywir, ond i’r isdeitlau gyfieithu hyn fel “the Gower”.

A gawn ofyn i’n darlledwyr dderbyn bod gyda nhw gyfrifoldeb i beidio â llygru’n hiaith? Wedi cwbl, bydd y BBC yn cynhyrchu cyfrolau di-rif ar ddefnydd ac ynganiad ystod helaeth o ieithoedd. Neu a ydyw’n bosibl bod y camgymeriad hyd yn oed wedi ymdreiddio i ganllawiau ynganu’r BBC, ac erbyn hyn yn cael ei atgynhyrchu gan sylwebyddion gyda bendith y Gorfforaeth?

Dywedodd y diweddar fardd nodedig Nigel Jenkins, un o blant yr ardal, wrth Peter Finch ar drwyn y Mwmbwls: “Gŵyr yw ef, dim ond Gŵyr. Dim bannod.” Bu’n hollol iawn.

Dafydd Williams,

Sgeti