Mae Boris Johnson wedi cefnu ar addewid maniffesto’r Ceidwadwyr wrth godi trethi fel rhan o gynllun i weddnewid gofal cymdeithasol a mynd i’r afael ag effaith Covid-19 ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mewn datganiad, mae prif weinidog Prydain wedi cyhoeddi cynnydd o 1.25% ledled y Deyrnas Unedig sy’n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol, gan ddweud y byddai’r refeniw ychwanegol yn helpu i dalu am y rhaglen ’dal i fyny’ fwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd.

Bydd £12bn y flwyddyn yn mynd i’r afael ag achosion sydd wedi pentyrru yn ystod y pandemig, ond hefyd y system gofal cymdeithasol yn Lloegr sydd â chostau “anrhagweladwy a chatastroffig”, yn ôl Downing Street.

Mae Boris Johnson wedi cyfiawnhau torri addewid maniffesto drwy ddweud nad oedd “pandemig byd-eang yn rhan o faniffesto neb”.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn £2.2bn yn ychwanegol o wariant gofal cymdeithasol sy’n deillio’r cynnydd yn y dreth incwm.

Beth fydd y drefn newydd?

O fis Hydref 2023, bydd y wladwriaeth yn talu costau unrhyw un sydd ag asedau o lai na £20,000 tra bydd disgwyl i’r rheiny ag asedau rhwng £20,000 a £100,000 gyfrannu at eu costau ond byddan nhw hefyd yn derbyn cymorth gan y wladwriaeth.

Fydd dim rhaid i unrhyw un dalu mwy na £86,000 ar gyfer costau gofal yn ystod eu hoes.

Yn ogystal â’r ardoll iechyd a gofal cymdeithasol, bydd cynnydd hefyd o 1.25% yn y dreth randal er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n derbyn eu hincwm o randaliadau hefyd yn cyfrannu.

Yn y lle cyntaf, bydd cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol o fis Ebrill y flwyddyn nesaf wrth i systemau gael eu diweddaru.

O 2023, bydd yr elfen ardoll iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei rhannu a bydd cyfraniadau gweithwyr i’w gweld yn glir ar eu taflenni cyflog.

Bydd pob oedolyn sy’n gweithio yn ei dalu, gan gynnwys y rhai sydd dros yr oedran ar gyfer pensiwn gwladol, a hynny’n wahanol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol eraill.

Yn ôl Downing Street, bydd trethdalwr sylfaenol sy’n ennill £24,100 yn cyfrannu £3.46 yr wythnos, tra bydd y rheiny sy’n ennill £67,100 yn cyfrannu £7.15 yr wythnos.

Dywed llefarydd Boris Johnson mai dim ond codi trethi yn y modd yma fydd yn codi digon o arian i dalu’r symiau sydd eu hangen er mwyn ymateb i’r sefyllfa a bod Yswiriant Gwladol yn ffordd deg o weithredu gan y byddai cyflogwyr hefyd yn cyfrannu.

Eglurhad “ddim yn dal dŵr”

Wrth ymateb, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi cyhuddo Boris Johnson o “esgus” gweithredu ac nad yw hynny “ddim yn dal dŵr”.

Mae’n rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu “argyfwng” ac mai “rhan yn unig o’r hanes” yw sefyllfa Covid-19.

Mae’n dweud bod rhestrau aros wedi cynyddu’n sylweddol, bod targedau canser, gwasanaethau brys a thriniaethau canser wedi methu cyn y pandemig, bod toriadau o £8bn wedi bod er gwaetha’r cynnydd mewn galw am wasanaethau a bod gofalwyr ar gyflogau pitw heb gytundebau sefydlog.

Mae’n dweud bod “methiant yn ddisgrifiad cywir o’r sefyllfa yn ein gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol cyn y pandemig”.

“Felly, dydy esgus mai dim ond oherwydd y pandemig mae’r prif weinidog [yn y sefyllfa] yma ddim yn dal dŵr,” meddai.

“Mae e’n rhoi plaster ar ben briwiau agored a gafodd eu hachosi gan ei blaid.

“Fe wnaeth e’r ymrwymiad hwnnw ar ofal cymdeithasol cyn y pandemig, ac fe ddywedodd y byddai’n talu amdano heb godi trethi cyn y pandemig.”