Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn cydnabod y bydd canfyddiadau arolwg interim o wasanaethau gofal mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn “peri pryder” i deuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
Ymhlith y meysydd lle mae angen gwelliannau mae prosesau gweinyddu meddyginiaethau a gwirio presgripsiynau, trosglwyddo babanod yn brydlon a lleihau derbyniadau amhriodol i’r uned yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, prinder meddygon ymgynghorol yn goruchwylio’r uned, rhai agweddau penodol o bractis clinigol gan gynnwys dulliau oeri babanod yn therapiwtig a babanod sydd angen tiwbiau anadlu, a gwella safonau dogfennau a siartiau arsylwi.
Cafodd panel ei sefydlu ar ôl i’r bwrdd iechyd benderfynu canolbwyntio o’r newydd ar ofal newyddenedigol dros y misoedd diwethaf.
Fis Mawrth, ymunodd Dr Alan Fenton, neonatolegydd ymgynghorol a Kelly Harvey, nyrs newyddenedigol â’r panel ac fe ddechreuodd y panel fis Mai ar y gwaith o gynnal adolygiad manwl o wasanaethau Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Y nod oedd ystyried y gwasanaeth newyddenedigol presennol a’r cynllun gwella sydd ar waith i geisio sicrwydd bod gwasanaethau’n ddiogel, yn effeithiol, yn cael eu harwain yn dda ac, yn hollbwysig, wedi’u hintegreiddio â gofal mamolaeth i ddarparu gwasanaeth di-dor ar gyfer menywod a’u babanod.
Wrth i’r panel ddechrau ar y gwaith, cawson nhw eu llywio gan dystiolaeth o sawl ffynhonnell, gan gynnwys:
- Adborth gan deuluoedd sydd â phrofiad o ofal newyddenedigol. Ymatebodd mwy na 100 o deuluoedd i ymarfer gwrando’r panel yn ystod mis Gorffennaf.
- Sgyrsiau gyda staff a rhanddeiliaid ehangach.
- Adolygiadau achos o’r babanod salaf yn yr uned newyddenedigol yn ystod 2020.
- Adolygiad o ystod eang o ddogfennau’n ymwneud â chanlyniadau clinigol, diogelwch a data effeithiolrwydd yn ogystal â llywodraethu clinigol a sicrwydd.
Canfyddiadau
Ar sail y dystiolaeth sydd wedi’i adolygu hyd yn hyn, mae’r panel wedi nodi rhai meysydd y mae’n credu “sy’n cael effaith ar ddarpariaeth gyson y gofal diogel ac effeithiol y byddem yn ei ddisgwyl gan uned o’r fath yn y Deyrnas Unedig”.
Mae nifer o faterion wedi cael eu huwchgyfeirio er mwyn gweithredu ar unwaith ac yn y tymor byr, gan gynnwys:
- Gwelliannau ar unwaith i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau gyda chymorth y fferyllfa a gwirio presgripsiynau yn ddyddiol. Gwneir gwaith pellach dros y mis nesaf i ddatblygu gweithdrefn safonol, rhestrau gwirio ac archwiliadau.
- Dechreuodd archwiliad i sicrhau bod babanod sydd angen eu hatgyfeirio i uned drydyddol yn cael eu trosglwyddo’n brydlon, a lleihau derbyniadau amhriodol i’r uned yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.
- Cynyddu nifer y meddygon ymgynghorol sy’n goruchwylio’r uned a chynyddu’r amser sy’n cael ei neilltuo i’r uned. Gweithio’n agosach gyda’r uned newyddenedigol arbenigol yng Nghaerdydd a chael rhagor o gymorth ganddi. Mae’r broses o recriwtio dau feddyg ymgynghorol ychwanegol wedi dechrau, a bydd un yn dechrau yn ei swydd ym mis Tachwedd.
- Sefydlu rhaglen gymorth canolfan arbenigol ar gyfer staff nyrsio newyddenedigol.
- Gwella agweddau penodol o bractis clinigol, gan gynnwys adolygiad brys o ddulliau oeri babanod yn therapiwtig a babanod sydd angen tiwbiau anadlu.
- Gwella safonau dogfennau, gan gynnwys cyflwyno siart arsylwi newydd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rwy’n ymwybodol o’r pwysau sy’n wynebu staff ar hyn o bryd, ac nid yw gwasanaethau newyddenedigol yn eithriad – bydd yn anodd iddynt weld y canfyddiadau hyn,” meddai Eluned Morgan.
“Fodd bynnag, mae’r panel wedi croesawu gonestrwydd staff yr uned a’u syniadau am yr hyn sydd angen newid.
“Mae’n bwysig bod staff yn cael eu cefnogi i wneud y gwelliannau hyn a bod eu llesiant yn ystyriaeth allweddol yng nghynllun gwella’r bwrdd iechyd.
“Yn yr un modd, er y bydd y canfyddiadau hyn yn peri pryder i deuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth, rwy’n gobeithio y byddant yn gweld bod eu llais a’u cyfraniad yn wirioneddol bwysig ac yn arwain at newid.
“Mae llawer o’r gwelliannau a roddwyd ar waith wedi bod o ganlyniad i’w hadborth a bydd y bwrdd iechyd eisiau gweithio gyda theuluoedd i sicrhau gwell cyfathrebu a chymorth a sicrhau bod rhieni’n cael eu cynnwys mwy mewn penderfyniadau am ofal eu baban.
“Bydd y panel a’m swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd i gefnogi a monitro’r gwelliannau.
“Bydd y panel yn llunio adroddiad pan ddaw’r rhan hon o’r gwaith i ben a bydd yr adroddiad ar gael i Aelodau pan fyddaf yn ei gael yn nes ymlaen yn y flwyddyn.”