Mae’r cyn-chwaraewr gwyddbwyll, Iolo Ceredig Jones, wedi marw yn 74 oed.

Bu’n dioddef o salwch ers cyfnod hir o amser.

Roedd wedi cynrychioli Cymru mewn 16 Olympiad Gwyddbwyll rhwng 1972 a 1998, gan gipio’r fedal aur yn 1990 yn Novi Sad, Iwgoslafia.

Fe ysgrifennodd lawlyfr yn Gymraeg ar wyddbwyll – A Chwaraei di Wyddbwyll? – gyda’i dad, yr awdur T. Llew Jones.

Roedd hefyd yn gyd-bencampwr Cymru yn 1982-83.

Yn 2013, derbyniodd deitl Meistr gan Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd.

Mae’n gadael ei frawd, yr ymgyrchydd Emyr Llywelyn, a’i chwaer, Eira.

“O’r addfwyn yr addfwynaf”

“Roedd e’n greadur annwyl iawn a’n fawr ei barch ymhob man,” meddai Emyr Llywelyn wrth golwg360 wrth dalu teyrnged i’w frawd.

“Buodd e’n gweithio i Adran yr Amgylchedd ar hyd ei oes, a’u harwydd nhw o barch at Iolo oedd ei adael e i chwarae yn yr Olympiad Gwyddbwyll bob pedair blynedd, a’i wahodd e i’r ciniawau Nadolig ar ôl iddo ymddeol.

“Roedd e’n ymddiddori mewn barddoniaeth – yn mynd i ddosbarth y bardd Idris Reynolds – ac fe gyfrannodd e i gasgliad Cerddi Dydd Mercher.

“Roedd e’n rhedeg y clwb gwyddbwyll yn Aberteifi hefyd.

“Dw i ddim yn meddwl bod e wedi cael sylw dyladwy ym myd gwyddbwyll, achos roedd e wedi cael y fedal aur yn Novi Sad.

“Hyd yn oed yn ei salwch, roedd pobol o’r byd gwyddbwyll yn ymweld ag e a’n ei gysuro.

“Roedd e’r person mwyaf addfwyn a gewch chi – o’r addfwyn yr addfwynaf.”