Bu twf blynyddol o 11.6% mewn prisiau tai yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Awst, yn ôl cwmni adeiladu’r Halifax.

Prisiau yng Nghymru welodd y twf blynyddol mwyaf dros y Deyrnas Unedig ar gyfer mis Awst, gan gyrraedd pris cyfartalog o £192,928.

Gwelodd de orllewin Lloegr dwf mawr hefyd (9.6%), gan adlewyrchu, fwy na thebyg, y galw parhaus am dai mewn ardaloedd gwledig, meddai’r adroddiad gan Halifax.

Fe wnaeth pris cyfartalog tŷ dros y Deyrnas Unedig gyrraedd record newydd yn ystod Awst, gyda thŷ’n costio £262,954 ar gyfartaledd yn ystod y mis.

Roedd y pris hwnnw fwy na £23,600 yn uwch na phan ddechreuodd y farchnad dai ailagor ym mis Mehefin 2020, yn ôl Halifax.

Dros y Deyrnas Unedig, roedd cynnydd o 0.7% mewn gwerth eiddo rhwng Gorffennaf ac Awst – neu £1,789 ar gyfartaledd.

“Ffactorau strwythurol”

Er hynny, fe wnaeth cynnydd mewn prisiau tai arafu i’r raddfa isaf mewn pum mis yn ystod mis Awst.

“Mae llawer o effaith yr egwyl ar y dreth stamp wedi gadael y farchnad nawr, fel sy’n cael ei amlygu yn y cwymp mewn nifer trafodion y diwydiant o gymharu â blwyddyn yn ôl,” meddai Russell Galley, rheolwr gyfarwyddwr Halifax.

“Fodd bynnag, tra bod rhaglenni’r Llywodraeth wedi cynnig hwb hanfodol, mae yna bethau arwyddocaol eraill sydd wedi arwain at godi prisiau tai.

“Rydyn ni’n credu bod ffactorau strwythurol wedi gyrru lefelau uchel o bobol i brynu [tai] – fel galw am fwy o le a mwy yn gweithio o adre.

“Mae’n edrych fel y bydd y tueddiadau hyn yn parhau, ac mae’n annhebygol y bydd y cynnydd mewn prisiau ers dechrau’r pandemig yn cael ei ddadwneud unwaith bydd gweddill yr egwylion treth (yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn dod i ben yn hwyrach yn ystod y mis.”

Galw yn “fyw ac yn iach”

Ychwanegodd cyn-gadeirydd preswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, Jeremy Leaf, fod y prisiau hyn ynghlwm “â phrinder stoc a chyllid morgais rhad” yn ogystal â gweithgaredd yn y farchnad.

“Dydyn ni heb weld diwedd cryfder y farchnad eto, ac rydyn ni’n gweld y galw’n fyw ac yn iach, gan arwain at ddigonedd o drafodion, hyd yn oed os yw hynny ar lefel is nag y gwelsom ni ychydig fisoedd yn ôl.”