Mae nifer y marwolaethau wythnosol sy’n gysylltiedig â Covid-19 ar eu huchaf ers pum mis yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 668 o bobol yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos yn gorffen ar 27 Awst.

Roedd hyn yn gynnydd o 17% ers yr wythnos flaenorol, a’r nifer uchaf ers y 719 o farwolaethau a gafodd eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth eleni.

Yn ystod yr wythnos yn gorffen ar 11 Mehefin gostyngodd nifer y marwolaethau i 84.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos effaith trydedd don Covid-19, a ddechreuodd yn y Deyrnas Unedig ym mis Mai gan arwain at gynnydd mewn achosion newydd a chynnydd llai, ond graddol, mewn niferoedd cleifion mewn ysbytai.

Mae nifer y marwolaethau dal yn llawer is na’r lefelau a welwyd yn ystod yr ail don, gan adlewyrchu llwyddiant y rhaglen frechu.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae brechlynnau, yn uniongyrchol, wedi atal 105,900 o bobol rhag marw yn Lloegr.

Uwch na’r cyfartaledd

Yng Nghymru, bu 16 o farwolaethau oedd yn gysylltiedig â Covid-19 yn yr wythnos yn gorffen ar 27 Awst, gostyngiad o’r 18 yn yr wythnos flaenorol.

Er hynny, mae nifer y bobol sy’n marw yn parhau’n uwch na’r arfer yr adeg hon o’r flwyddyn.

Bu 616 o farwolaethau yng Nghymru yn yr wythnos yn gorffen 27 Awst, sydd 7.5% yn uwch na’r cyfartaledd dros y bum mlynedd flaenorol ar gyfer yr wythnos honno.

Yng Nghymru a Lloegr, bu 12.1% yn fwy o farwolaethau yn ystod yr wythnos honno o gymharu â’r cyfartaledd dros bum mlynedd, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyma’r wythfed wythnos yn olynol i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol adrodd bod nifer y marwolaethau’n uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd.