Mae bwytai o Gymru wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau Bwyd Stryd Prydain.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn ystod digwyddiad yn Hull, Swydd Efrog, ac fe wnaeth llu o fasnachwyr bwyd stryd gasglu yno i gael eu beirniadu.

Fe aeth y brif wobr o’r noson, Y Gorau o’r Gorau, i Janet’s, sydd wedi eu lleoli ym Mhontypridd ac yn arbenigo mewn bwyd o ogledd Tsieina.

Roedd cegin Fire and Flank o Gaerdydd yn llwyddiannus yn y wobr am y Pryd Gorau, gyda’u stecen gig eidion nodweddiadol.

Fe gafodd Keralan Karavan, sydd eto o Gaerdydd, y wobr am y Frechdan Orau gyda thaco Indiaidd ei naws, a daethon nhw hefyd yn drydydd yn y wobr Dewis y Bobol.

Dywedodd trefnwyr yr ŵyl yn Hull bod hi’n wych cael noson ar ôl blwyddyn a hanner anodd i ddathlu bwyd o Brydain.

“Wrth eu boddau!”

Roedd David Evans o fwyty Fire and Flank yn llwyddiannus yn y categori Pryd Gorau, gyda stecen sy’n cael ei weini gyda hufen a sbigoglys.

“Oedd e’n ffantastig,” meddai wrth golwg360.

“Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennill dim byd.

“Ges i fynd yno fel wildcard, achos doeddwn i heb ennill yng Ngwobrau Bwyd Stryd Cymru.

“Ond achos y feedback ges i yno, fe wnaethon nhw ofyn i fi ddod i Hull ac roedd y beirniaid wrth eu boddau!

“Mae’r pryd nes i ennill gydag yn boblogaidd iawn – dw i’n cael llawer o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn gofyn am y rysáit, a phobol yn gofyn am fwy a mwy unwaith maen nhw’n ei drio!”

Dave a Chris o Fire and Flank yn coginio yn Hull

Busnes newydd

Fe wnaeth David Evans ddechrau Fire and Flank yn ystod y pandemig.

“Mae ond wedi bod yn mynd ers rhyw bedwar mis nawr,” meddai.

“Dw i yn rhedeg busnes bwyd stryd arall ers o gwmpas tair blynedd, felly mae gen i brofiad.

“Fe wnes i ddechrau yng nghanol Covid – doedd e ddim mor anodd a hynny, achos oeddwn i’n rhedeg busnes yn barod, felly oedd gen i’r dealltwriaeth o beth oedd angen ei wneud.”

Ar y map

Roedd David yn cytuno bod y gwobrau wedi rhoi diwydiant bwyd a choginio Cymru ar y map.

“Mae wedi gwneud hynny gant y cant,” meddai David.

“Rydyn ni wedi mynd yno i gystadlu yn erbyn bwyd o’r Alban ac ar hyd de a gogledd Lloegr, ac mae gwobrau’r Pryd Gorau, Brechdan Orau, a’r Gorau drwyddi draw i gyd wedi mynd i dde Cymru.

“Felly mae’n llwyddiant anhygoel i ni – mae Cymru wedi sgubo’r llawr!”