Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gweledigaeth newydd i gynhyrchu mwy o fwyd uwch-dechnoleg, fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr hinsawdd.

Nod Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig yw gweld twf yn nifer y busnesau sy’n defnyddio technegol i ddarparu systemau cynaliadwy i dyfu bwyd.

Wrth dyfu bwyd fel hyn mae’r paramedrau ac amodau fel dŵr a golau’n cael eu rheoli’r dynn.

Mae Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig yn cael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd gan fod systemau wedi’u datblygu ar fodel economi gylchol gan gynnwys gwres a maetholion wedi’u hailgylchu ac ynni adnewyddu.

Yn ogystal, mae’r math yma o amaethu yn helpu i sicrhau cyn lleied o wastraff bwyd â phosib.

Mae’r math hwn o dyfu bwyd yn ategu dulliau amaethyddol a garddwriaeth traddodiadol drwy gynhyrchu cnydau na ellir eu tyfu’n hawdd yng Nghymru a chyflenwi cynnyrch gydol y flwyddyn.

“Cryfach, gwyrddach, tecach”

Ymwelodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, â busnes S&A yn y Bont-faen, Bro Morgannwg, a gafodd ei sefydlu gyda’r rhaglen, er mwyn lansio’r weledigaeth.

Mae’r cwmni yn cynhyrchu ffrwythau meddal, gan gynnwys mefus, drwy gydol y flwyddyn, a chafodd brand mefus newydd Aeron Cymreig y cwmni ei lansio yno.

Roedd hi’n “wych” ymweld â chwmni S&A, meddai’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Mae creu Cymru gryfach, wyrddach a thecach wrth wraidd yr hyn yr ydym am ei gyflawni,” meddai.

“Mae gan bob un ohonom bryderon am newid yn yr hinsawdd, lleihau adnoddau naturiol a thwf yn y boblogaeth – a’r effaith mae’n ei gael ar y bwyd ar ein platiau.

“Mae gan Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir y potensial i drawsnewid y gadwyn cyflenwi bwyd tra’n gostwng ein hôl troed carbon ac effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd.

“Gyda’n gilydd mae gennym gyfle gwirioneddol i ddarparu Cymru wyrddach nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

“Cyfleoedd sylweddol”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp S&A, Peter Judge, fod “cyfleoedd sylweddol i ddatblygu cnydau gwerth uchel yn effeithlon gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru”.

“Mae’r buddsoddiad y mae S&A Produce wedi’i wneud yn cefnogi hyn, ynghyd â lansiad ein Brand Cymreig a fydd ar gael yn Siopau Coop yn ystod yr wythnosau nesaf.”